Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru’n dathlu’r ganrif gyntaf
Dyddiad:
2007-08-09Bu Amgueddfa Cymru'n parhau â'i dathliadau canmlwyddiant heddiw (dydd Mercher 8 Awst) drwy lansio llyfr newydd sbon sy'n darlunio uchafbwyntiau'r casgliadau cenedlaethol.
Cafodd ‘Amgueddfa Cymru - dathlu'r ganrif gyntaf' ei lansio'n swyddogol
am 12pm ar stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar
faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r llyfr a gyhoeddwyd gan ‘Llyfrau Amgueddfa Cymru,' yn cynnwys lluniau hanesyddol o archif ffotograffau'r Amgueddfa ynghyd â delweddau trawiadol a modern sy'n adrodd hanes rhai o'r bobl a helpodd i'w hadeiladu dros y ganrif ddiweddaf.
Mae Amgueddfa Cymru'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Ceir mynediad am ddim i'r amgueddfeydd diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.
Am rhagor o fanylion, cysylltwch â Sian James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Cymru ar 07812 801356 / 07920 027067.
Nodiadau i Olygyddion
Gweithgareddau ar stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Iau 9 Awst
- 11am - Sgwrs ar y Chwiorydd Davies, Gregynog
- 1pm - Lansio Gwyl Ffilm Fflics yng nghwmni'r cynhyrchydd John Hefin a'r actores Nia Roberts
- 2:30pm - Darlith Cyfeillion y Llyfrgell
Gwener 10 Awst
- 2pm - Mererid Hopwood yn arwyddo cyfrol canmlwyddiant y Llyfrgell, Yn y Lle Hwn