Datganiadau i'r Wasg

Sialens rygbi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sialens Sgrap

Mae Cwpan Rygbi’r Byd ar y gorwel, ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe eisoes yn mynd i ysbryd y peth.

Yr wythnos nesaf fydd dechrau’r Sialens Sgrap - ar thema rygbi.

Caiff ymwelwyr wneud eu modelau eu hunain o goes eu hoff seren chwaraeon a fydd yn cicio allan wrth droi dolen. Bydd yna gystadleuaeth hefyd i weld pa ddyfais fydd yn gallu cicio’r bêl bellaf dros y llinell gais.

Caiff yr holl fodelau eu gwneud o sgrap a ddarperir gan y ganolfan adnoddau chwarae, fel arall byddai’n mynd i safle tirlenwi.

Bydd y gweithdai’n dechrau am 1pm bob dydd rhwng 20 a 26 Awst ac yn para drwy’r prynhawn. Western Power sy’n noddi’r gweithdai ac XL Cymru fydd yn eu hwyluso.

“Roedden ni’n meddwl y byddai rygbi’n destun gwych am fod Cwpan y Byd ar fin dechrau ac am fod Gareth Edwards yn ein Horiel Cyflanwyr, roedd hi’n rhywbeth roedden ni am ei daclo,” meddai llefarydd ar ran yr Amgueddfa.

Mae’r gweithdai ar gyfer plant dros chwech oed a chaiff rhieni eu hannog i gymryd rhan yn yr hwyl hefyd.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru..