Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan yn ennill gwobr am 'ragoriaeth mewn addysg'

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, un o’r saith amgueddfa a weinyddir gan Amgueddfa Cymru, wedi ennill gwobr Sandford am ei rhaglen addysg neilltuol, sy’n cynnwys dehongli dros 40 o adeiladau hanesyddol.

Mae Sain Ffagan wedi bod yn ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr â gwybodaeth am hanes, diwylliant a thraddodiadau Cymru ers dros 50 mlynedd, a chyflwynwyd Gwobr Sandford i’r tîm yn Amgueddfa’r Awyrlu Brenhinol, Cosford ddoe (12 Tachwedd) i gydnabod ei gwasanaethau a’i chyfleusterau addysg, a’i chyfraniad arbennig at addysg ym maes treftadaeth.

 

Yr Ymddiriedolaeth Addysg Treftadaeth sy’n cyflwyno’r wobr, sy’n ddilys am gyfnod o bum mlynedd. Dyfernir y wobr, sy’n feincnod ansawdd mewn addysg treftadaeth, yn annibynnol. Nid yw’r gwobrau blynyddol hyn yn gystadleuol ond maent yn cydnabod addysg o safon ar safleoedd hanesyddol ledled Prydain.

Un o hoff adeiladau ymwelwyr Sain Ffagan yw Ysgol Maestir o Lanbedr Pont Steffan. Daeth dros 14,000 o blant o bob rhan o’r wlad i ymweld â Maestir y llynedd i ddysgu am yr ysgol a’r tro ar fyd a welwyd mewn addysg a phlentyndod. Mae cyfres o adeiladau eraill wedi eu hailgodi ar y safle yn cydategu’r profiad – o Siop Gwalia i Gapel Pen-rhiw – ynghyd ag oriel dan do newydd yr Amgueddfa, Oriel 1, sy’n rhoi gwedd hollol newydd i’r amgueddfa.

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Sain Ffagan wedi ennill y wobr arbennig yma,” meddai  Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. “Mae hi’n dipyn o gamp i’r Amgueddfa, yn enwedig eleni, wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant. Rydyn ni wrthi’n gosod y sylfeini i ddatblygu Sain Ffagan ymhellach fel amgueddfa hanes Cymru, gan adrodd stori pobloedd Cymru o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw.

“Mae ein rhaglen addysg gynhwysfawr yn rhan annatod o’n darpariaeth i helpu ymwelwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu profiad yn yr Amgueddfa. At hynny, rydyn ni’n estyn allan i’r gymuned ehangach trwy ein hatyniad diweddaraf – Oriel 1, gan addysgu cynulleidfaoedd newydd am beth mae perthyn i wlad yn ei olygu, a’u cynnwys nhw yn y broses o gasglu.”

Wrth longyfarch Sain Ffagan ar ei llwyddiant, meddai’r Gweinidog Treftadaeth newydd, Rhodri Glyn Thomas: "Mae’r wobr yma’n cydnabod y rhan sydd gan yr Amgueddfa i’w chwarae wrth ddysgu pobl am hanes Cymru. Mae’n eithriadol o bwysig i bobl o Gymru a’r tu hwnt ddysgu sut roedd y Cymry’n arfer byw a gweithio, ac yn bwysicach efallai, sut mae pethau wedi datblygu dros amser. Rwy’n falch o allu dweud bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gallu cefnogi’r rhan werthfawr yma o’n treftadaeth gymdeithasol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, a enillodd Wobr Sandford yn 2005.

 

Ceir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.