Datganiadau i'r Wasg
Nadolig ddoe – Nadolig heddiw
Dyddiad:
2007-11-30Sut allwch chi ddianc rhag prysurdeb y stryd fawr, trafferthion parcio, bagiau trymion a thraed tost y Nadolig hwn? Na, nid am ar y wê rydyn ni’n son ond rhywle sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr i brofi Nadolig traddodiadol yng nghwmni ffrindiau a theulu.
Mae'r wê fod i leihau pwysau’r Nadolig. Dyma gall Y Gwyliau, digwyddiad Nadolig blynyddol Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a gynhelir o 5 i 7 Rhagfyr 2007 (6-9 pm) ei wneud hefyd. Felly, camwch i ffwrdd o’ch allweddell, gadewch y caneuon pop byddarol Nadoligaidd ar ôl ac ymunwch mewn dathliad o Nadolig ddoe a heddiw yn yr Amgueddfa.
Gallwch wylio criw’r Fari Lwyd yn gofyn am Galennig unwaith eto wrth y tollborth a chanu mewn gwasanaeth carolau yn hen gapel Penrhiw sy’n ddwy ganrif oed. Bydd ffair hen ffasiwn hefyd ar gael i’ch difyrru wrth i chi gael blas ar rai o hen draddodiadau’r tymor.
Mae’r ddelwedd ramantaidd o Sion Corn yn eistedd wrth y tân yn dod yn fyw yn Ffermdai Cilewent ac Abernodwydd. Mewn gwirionedd, bydd nifer o’r tai yn Sain Ffagan, sy’n perthyn i amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol, wedi’u haddurno’n briodol i gyfateb â’u cyfnod.
Bydd arogl cyfarwydd bara ffres Popty Derwen yn llenwi’r nos a pharatoir bwyd gan Fwytai Digby Trout i roi egni i chi bori’r casgliad eang o anrhegion a chardiau Nadolig yn siop Sain Ffagan neu Siop Gwalia. Hefyd, ymwelwch â’r stondinau celf a chrefft yn Sefydliad Gweithwyr Oakdale - cewch hyd yn oed brynu eich stampiau yn Swyddfa Post Blaenwaun!
Nid yw Nadolig yng Nghymru yn gyflawn heb gerddoriaeth. Cawn glywed hyrdi-gyrdi’n croesawu ymwelwyr i’r safle, a bydd carolwyr a chanwyr clychau profiadol yn ychwanegu at y naws arbennig, ynghyd ag adloniant gan fandiau pres traddodiadol.
Dywedodd Juli Paschalis, Swyddog Digwyddiadau yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:
“Mae tymor y Nadolig yn ddathliad ar gyfer y gymuned leol. Gyda rhaglen o ddigwyddiadau o goginio traddodiadol Cymreig i Gwmni Theatr Mirage a sioe hud i blant gan Jenny-any-dots, mae Y Gwyliau yn ddigwyddiad a drefnir ar gyfer teuluoedd yr ardal a thu hwnt i ddod ynghyd i ddysgu am y Nadolig a fu a mwynhau Nadolig heddiw.”
Angogir ymwelwyr i ddod a fflachlamp gyda nhw, i ychwanegu at yr awyrgylch arbennig. Pris mynediad yw £6 i oedolion, £3 i blant a gellir parcio’n rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth neu fanylion am ostyngiadau i grwpiau, ffoniwch (029) 2057 3466.
Un o Amgueddfeydd Cymru yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Diwedd
Cyfleon ffilmio, cyfweliadau a lluniau ar gael ac am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3486 / 07920 027067 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.
Dyma rai o ddigwyddiadau eraill y Nadolig yn Sain Ffagan:
· 8 & 9 Rhagfyr (11 am-1 pm & 2-3.30 pm) Nadolig Gynaliadwy
· 22-23 Rhagfyr (10 am-5 pm) Trywydd y Nadolig
· 31 Rhagfyr (11 am-1 pm & 2-2.30 pm) Calennig