Datganiadau i'r Wasg

Ffordd wahanol o ddathlu'r Nadolig

Os ydych chi wedi cael llond bol ar yr un hen ddathliadau Nadolig, dewch draw i Big Pit, Blaenafon neu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion i fwynhau ffordd wahanol o ddathlu.

Bydd Siân Corn – gwraig Siôn – yn adrodd hanesion Nadoligau’r gorffennol yn Big Pit ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 15 a 16 Rhagfyr ac yn egluro sut Nadolig gaiff hi a’i g?r ar adeg prysura’r flwyddyn.

 

Caiff ymwelwyr fwynhau’r wefr o gael cip y tu ôl i’r llenni ar Siân Corn yn ei chartref am 11.30am, 12.30pm, 2pm, 3pm ar y dyddiau hyn. Dywedodd Sharon Ford, Swyddog Addysg, Big Pit:

 

“Rydyn ni’n falch dros ben fod Siân Corn yn galw draw i ddathlu gyda ni eto eleni. Mae ganddi lu o straeon difyr i’w rhannu a bydd y teulu cyfan wrth eu bodd. Bydd cyfle i’r plant greu amrywiaeth o grefftau’r Nadolig i’w cadw, gan gynnwys masgiau dyn eira.”

 

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’n canolbwyntio ar addurniadau tymhorol hefyd ond bydd y rhain yn addas ar gyfer gwledd Rufeinig. Ar ddydd Sadwrn 15 Rhagfyr, bydd Siôn Corn yn galw draw i helpu’r Rhufeiniaid i baratoi eu cartref ar gyfer G?yl Saturnalia.

 

Rhwng 11am a 4pm, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth am ba chwedlau ac arferion y Nadolig yn y gorffennol sy’n dal yn gyfarwydd i ni heddiw. Caiff ymwelwyr y cyfle i ddysgu rhagor am darddiad cusanu o dan yr uchelwydd a’r cyswllt rhwng addurno coed Nadolig a’r Rhufeiniaid.

 

Pris ymweliad â Siân Corn fydd £1 y plentyn; mae mynediad i ‘Saturnalia’ am ddim.

Ni cheir bwcio llefydd ymlaen llaw.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.