Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Creadigol Caerdydd

Arddangosfa Newydd ‘Journals’ yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cynnal gweithdy rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn, 12 Ionawr 2008 i lansio’i arddangosfa gelf ddiweddaraf, ‘Journals’ a gynhyrchwyd gan fenywod o Gaerdydd ac a drefnwyd gan Gymdeithas Celfyddydau Menywod. 

 

Caiff y digwyddiad a gynhelir yn Oriel 1, Sain Ffagan a’r Ystafell Ysgolion o 11am hyd at 4pm, ei harwain gan dîm o artistiaid proffesiynol gan gynnwys yr artist gweledol Ellie Reynish a’r artist print Jane Taylor. Yr artistiaid yma, ynghyd â’r ysgrifenwraig creadigol Susan Richardson a gwneuthurwr ffilmiau digidol Aimee Timms, a anogodd grwpiau benywaidd o ardal Caerdydd i gynhyrchu ‘Journals.’

 

Casgliad o ddyddiaduron, printiau a thafluniadau digidol sy’n cynrychioli profiadau dyddiol y menywod, eu hatgofion a’u breuddwydion yw’r arddangosfa. Ysgrifennodd Gemma Jayne Paine o Gaerdydd – un o’r menywod a gymerodd rhan yn ‘Journals’ – y gerdd ganlynol:  

 

“Celf er mwyn celf,

menywod creadigol

mewn gofodau creadigol.

Digymell. Paent, print,

geiriau, digidol. Ni yw y

gwneuthurwyr, y pobwyr,

y creadigwyr, y bobl sy’n

medru amlorchwylio.”

 

Yn agored i unrhywun â diddordeb mewn trio rhywbeth newydd a bod yn greadigol gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol, mae’r digwyddiad dydd Sadwrn hefyd yn gyfle i ddarganfod mwy yngl?n â sut gallwch chi gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a digwyddiadau a drefnir gan Gymdeithas Celfyddydau Menywod.

 

Mae ‘Journals’ yn agored i’r cyhoedd i’w fwynhau yn Oriel 1 - a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality - hyd at 6 Ebrill 2008. Cynigir mynediad am ddim.

Am ragor o wybodaeth yngl?n â chymryd rhan yn y gweithdy a noddir gan NIACE - corff sy’n hyrwyddo dysgu oedolion - cysylltwch â Juli Paschalis, Swyddog Digwyddiadau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar
029 2057 3441/juli.paschalis@amgueddfacymru.ac.uk neu Lucy Lilley, Cymdeithas Celfyddydau Menywod ar 029 2048 7850/projects@womensarts.co.uk.

 

Cynigir mynediad am ddim i’r Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a cheir rhagor o wybodaeth yngl?n â digwyddiadau’n Sain Ffagan ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Un o Amgueddfeydd Cymru yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Noddir Cymdeithas Celfyddydau Menywod a’i phrosiectau cymunedol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Diwedd

 

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu Lucy Lilley, Cymdeithas Celfyddydau Menywod ar 029 2048 7850/projects@womensarts.co.uk.

 

Nodiadau i Olygyddion

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.