Datganiadau i'r Wasg

Sioe Trenau Bach

Llond lle o stem yn y Sioe Trenau Bach
14 - 17 Chwefror 2008

Bach, mawr, go iawn neu fodel – bydd yna rywbeth i bawb yn Sioe Rheilffyrdd Model Amgueddfa Lechi Cymru yn ystod hanner tymor, o’r 14eg i’r 17ain o Chwefror. Mae’r sioe hon yn denu miloedd o ymwelwyr a dilynwyr bob blwyddyn, ac mae’n gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau’r arddangosfeydd sefydlog a symudol. Yn ogystal, bydd clybiau rheilffyrdd lleol megis Bae Colwyn, De Sir Gaernarfon a Wrecsam a chlybiau o bell yn cymryd rhan.

Fel yn y gorffennol, bydd nifer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injanau stêm a threnau bach, arddangosiadau a sgyrsiau dyddiol yn ogystal â llond siediau o injanau a chynlluniau o bob maint a siâp. Eleni, bydd mwy nag erioed o’r blaen, fel yr eglurodd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa.

“Mae’r Sioe Trenau Bach wedi tyfu’n arw ac mae wedi dod yn elfen boblogaidd iawn yng nghalendr digwyddiadau gogledd Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Mae gan Amgueddfa Lechi Cymru ddiddordeb byw yn y dreftadaeth reilffyrdd - wedi’r cyfan, roedd y lein bach yn allweddol i waith y chwarel a cheir injan stêm o’r chwarel, sef UNA, yng nghasgliad yr amgueddfa.”

Yn ole to eleni ar ol llwyddiant y llynedd fydd y ‘trac prawf’ i blant, fel yr eglurodd Julie Willams, y Swyddog Marchnata:

“Yn amlwg, mae llawer o’r rheilffyrdd model sydd gennym yn yr amgueddfa yn werthfawr iawn i’w perchenogion ac rydym yn annog plant i edrych arnynt yn unig ac i beidio â chyffwrdd â hwy. Ond mae’r trac prawf yn wahanol; mae ar gyfer y plant yn unig … gallant roi cynnig ar yrru’r peiriannau neu gallant ddod â’u hinjanau lled 00 eu hunain yma. Dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn ac rydym yn gobeithio datblygu’r cyfleuster hwn yn y dyfodol os bydd yn llwyddiannus.”

Bydd Rheilffordd Llyn Padarn ar agor drwy gydol yr wythnos Hanner Tymor, a bydd

cyfle i chi deithio ar y trên ar hyd glannau Llyn Padarn (codir tâl ychwanegol). Bydd y digwyddiad hwn felly wrth fodd y rhai sy’n caru trenau a bydd yn ddiwrnod gwerth chweil i’r teulu cyfan!

Bydd y Sioe Rheilffyrdd Model ar agor rhwng 10am a 4pm o Chwefror 14 hyd

Chwefror 17 2008. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r amgueddfa ar 01286 870630.

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Amgueddfa Cymru - National Musuem Wales yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Nodiadau i Olygyddion

  1. I gael rhagor o wybodaeth i’r wasg ynghyd â ffotograffau, cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707, e-bost: julie.williams@museumwales.ac.uk
  2. 2. Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru