Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Lechi Cymru yn 'rapio' tuag at filiwn o eiriau

Mae caneuon ‘rap’ unigryw a gyfansoddwyd gan plant Ysgolion o Wynedd nawr i’w clywed ar safle we  Amgueddfa Cymru.

 

Ydych chi wedi meddwl faint o eiriau y byddwch chi’n eu darllen neu eu gweld bob dydd?  Yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn ddiweddar bu trawsnewid ar gannoedd o eiriau i gerddoriaeth rap, wrth i ddwy ysgol gymryd rhan yn y cynllun cenedlaethol Darllenwch filiwn o eiriau yng Nghymru” (RMWW), sef cynllun sy’n gosod her i ddisgyblion ysgol gynradd, dosbarthiadau ac ysgolion i ddarllen miliwn o eiriau y flwyddyn drwy gyfrwng prosiectau rhyngweithiol dyfeisgar.

 

Plant o Ysgol Maesincla, Caernarfon ac Ysgol Bro Plennydd, y Ffôr, bu’n cymryd rhan mewn gweithdai rap gyda’r cerddor Martin Dawes. Eglurodd Eirian Lewis, cydlynydd Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru, mwy am y cynllun:

 

“Mae’r prosiect Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’i strategaeth ‘Geiriau’n Galw – Rhifau’n Cyfri’, a’r nod yw hybu agwedd bositif tuag at ddysgu ac annog llwyddiant i bawb, yn enwedig y rhai sy’n amharod i ddarllen ac yn cael trafferth i ddarllen.   Nid yw’r prosiect yn ymdrin â llyfrau’n unig.  Gofynnir i’r plant sylwi ar a chyfrif y geiriau sydd o’u cwmpas bob dydd – yn yr ysgol, yn y cartref, ac ym mhob man arall. 

 

“Mae’r prosiect hwn yn yr amgueddfa wedi rhoi cyfle gwych i’r plant ddod allan o’r ystafell ddosbarth a sylweddoli y gallant gyfrif geiriau ble bynnag y maent.   Mae’r  gweithdai yma  wedi cynnig cyfleoedd amrywiol, dynamig a chyffrous i’r plant gynyddu eu cyfrif geiriau.

 

“Mae pob gair a phob math o destun yn cyfrif, yn amrywio o arwyddion a labeli

ar becynnau i gomics a gwefannau.  Ac nid geiriau Cymraeg neu Saesneg yn unig

 sy’n cyfrif – gellir cynnwys geiriau mamiaith eraill.  Mae gwrando ar eiriau, er

enghraifft storïau amser gwely neu rywun yn adrodd stori, hefyd yn cyfrif.’

 

 

 

Yn ogystal â’r gerddoriaeth rap, bu’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau adrodd

storïau a sesiynau crefft gydag Angela Roberts, yr awdures leol, a fu’n adrodd hanes

yr AFANC, sef y ddraig/bwystfil mytholegol.

 

Eglurodd Elen Roberts, Swyddog Addysg yn yr amgueddfa, ymhellach:

“Y peth gwych yngl?n â phrosiect fel hwn yw gweld y plant yn cael hwyl gyda geiriau mewn ffordd nad oeddynt wedi meddwl oedd yn bosibl.   Mae mynd i’r afael â synau a rhythmau iaith yn brofiad cyffrous, yn hytrach na thasg ddiflas yn yr ystafell ddosbarth.”

 

Meddai John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau:  Mae’r ymgyrch Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru eisoes yn llwyddiant mawr, ac mae sawl ffordd ddyfeisgar a chyffrous y gall y plant gymryd rhan. Mae’r ymgyrch yn annog plant drwy Gymru nid yn unig i ddechrau darllen, ond i barhau i ddarllen – ac mae hyn yn hanfodol os ydym am ddatblygu’r sgil hollbwysig hwn.  Hoffwn annog pawb i wynebu’r her hon a darllen miliwn o eiriau.”

 

Gellir clywed y caneuon rap ar wefan yr amgueddfa  ar

www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/llanberis/rap/

 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yn gyffredinol ewch i www.darllenwchfiliwnoeiriauyngnghymru.org.uk

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd drwy Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Rydych chi newydd ddarllen  549  o eiriau!

-          Diwedd    -

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch  â Julie Williams, y Swyddog Marchnata, ffôn: 01286 873707, julie.williams@museumwales.ac.uk, neu Eirian Lewis, cydlynydd Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru, EirianLewis@gwynedd.gov.uk