Datganiadau i'r Wasg

Arwydd o wanwyn

Petai rhaid i chi ddod o hyd i Ddail Troed yr Ebol, Dringwr Bach neu Bila Gwyrdd, a fyddech chi’n gwybod ym mhle i edrych neu am beth i chwilio? Dyma rai o’r blodau ac adar sy’n dynodi dechrau’r gwanwyn - tymor mae’n debyg sy’n dyfod yn gynt bob blwyddyn.  

Dewch i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru o 9 i 17 Chwefror 2008 i ddarganfod mwy am ba elfennau o natur sy’n gysylltiedig ag adeg y gwanwyn, a sut allwch chi ymchwilio’ch hun i mewn i effeithiau cynhesu byd-eang.

 

Dilynwch drywydd yr Amgueddfa (9, 10, 16 & 17 Chwefror, 10am-5pm), fydd yn eich helpu i adnabod y blodau amrywiol sy’n tyfu’n Sain Ffagan, pa bryfed sydd wedi ymddangos o aeafgwsg, a nodwch pa adar sydd wedi dechrau nythu. Dyma’r math o wybodaeth sy’n cael ei fonitro er mwyn dilyn cynhesu byd-eang fel yr eglura Gareth Bonello, Dehonglydd Archwilio’n Coedwigoedd, Sain Ffagan:

“Mae Coed Cadw yn ymchwilio i sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio patrymau natur. Bydd ymwelwyr i Sain Ffagan dros hanner tymor yn medru helpu gyda’r astudiaethau yma drwy basio gwybodaeth ymlaen yngl?n â beth maent yn gweld ar draws y safle. A chyda lansiad Llwybr y Goedwig newydd yr Amgueddfa’n hwyrach y Gwanwyn hwn, bydd hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ymwelwyr  werthfawrogi beth sydd o’u hamgylch.”

 

Ceir rhagor o wybodaeth yngl?n â digwyddiadau dros hanner tymor, gan gynnwys Gweithgareddau’r Gwanwyn o 11-15 Chwefror (11am-1pm a 2pm-4pm), ar ein gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: (029) 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.