Datganiadau i'r Wasg

Parti Pen-Ffordd Gŵyl Ddewi

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe’n dathlu Dydd G?yl Dewi mewn steil ar 1 Mawrth gyda pharti pen-ffordd - a bydd croeso i bawb.

Yn ogystal â cherddoriaeth Gymreig, côr meibion, cynnyrch lleol a gweithgareddau celf a chrefft, bydd perfformiadau gan griw dawns ‘Dynion’ sydd wedi paratoi dawns arbennig ar gyfer yr achlysur.

Bydd cymeriadau hanes byw yn helpu i ddod â hanes Cymru’n fyw a bydd pice bach a diod i’r 100 ymwelydd cyntaf. Cewch gymryd rhan mewn cystadleuaeth i enwi’r cywion a fydd yn dechrau eu cyfnod deori gyda ni ar 1 Mawrth yn barod at y Pasg.

Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa y bydd yna rywbeth at ddant y teulu i gyd. “Bydd yr hwyl yn dechrau am ganol dydd ac yn para tan tua 4pm ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod draw mewn gwisg Gymerig neu’n gwisgo crys Cymru.” ychwanegodd.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n rhan o Amgueddfa Cymru sy’n gweithredu chwech amgueddfa genedlaethol arall ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Cewch fynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata: 01792 638970 neu e-bostiwch fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk