Datganiadau i'r Wasg

Wyau Pasg neu glapiwr wyau?

Gweithgareddau Pasg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Ydych chi erioed wedi ystyried pam fod plant yn gwneud bonet Pasg yn yr ysgol neu os yw rhoi a derbyn wyau Pasg yn draddodiad Cymreig? O 26 - 28 Mawrth 2008, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn edrych ar bwysigrwydd Pasg i'r hen Gymry, trwy gyfres o deithiau tywys rhad ac am ddim.

Roedd y Cymry'n arfer credu fod gwisgo het newydd am y tro cyntaf ar Sul y Pasg yn arwydd o hapusrwydd mewn cariad ar gyfer y 12 mis i ddilyn. Hefyd, roedd plant yn arfer ymweld â thai cyfagos a defnyddio clapiwr wyau i ofyn am wyau yn ystod yr wythnos cyn Pasg. Dyma rai o'r straeon y bydd Jayne Murphy o Sain Ffagan, a fydd yn arwain y teithiau am 12pm a 2pm, yn ei hadrodd.

"Bydd y daith yn dechrau yn Eglwys Teilo Sant sydd newydd gael ei hadnewyddu ar y safle," dywedodd Jayne. "Roedd y gymuned gyfan yn arfer dathlu'r Pasg gyda'i gilydd yn yr Eglwys."  

"Roedd digwyddiadau chwaraeon mewn talyrnau, fel un Sain Ffagan sy'n wreiddiol o Sir Ddinbych, yn cael eu gwahardd yn ystod y Garawys. Bydd ymwelwyr wedyn yn clywed sut y byddai siopau teilwyr yn ystyried Pasg yn ‘ddechrau newydd' a pham bod bwyd fel bynsen y Groglith, crempog, wyau ac ?yn mor bwysig."  

Mae'r teithiau'n addas ar gyfer teuluoedd a chynhelir taith iaith Gymraeg am 12pm ar 27 Mawrth 2008.

Hefyd dros Basg, bydd Sain Ffagan yn datguddio deiet yr Oes Haearn a'u bwydydd yn y Gwanwyn, drwy arbrofi gyda thechnegau coginio yn y Pentref Celtaidd (21 - 24 Mawrth 2008, 11am - 1pm & 2pm - 4pm). Yn ogystal, dysgwch am blannu tatws ym Mhrydain yn sgil y rhyfel, yng ngherddi'r Amgueddfa ar 21 Mawrth o 2 - 3pm ac ymunwch mewn sesiwn Hau Hadau'r Gwanwyn yn yr ardd lysiau ar 26 Mawrth (2 - 3pm) i ddarganfod pa hadau i'w plannu nawr. 

Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau'r Pasg yn Sain Ffagan ar ein gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.