Datganiadau i'r Wasg

Crefftau Cynaliadwy

Arddangos Crefftau Cefn Gwlad yn Amgueddfa Wlân Cymru

Roedd Melin Cambrian, Dre-fach Felindre sydd heddiw'n gartref i Amgueddfa Wlân Cymru, yn enwog am ei chynnyrch gwlân byd enwog. Ac ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth 2008, bydd yr Amgueddfa'n croesawu crefftwyr fydd yn arddangos sgiliau traddodiadol Cymreig eraill, yn ystod digwyddiad Crefftau Cefn Gwlad. 

O 10am - 4pm bydd ymwelwyr yn medru profi o lygad y ffynnon, sgiliau crefftwyr lleol wrth iddynt gerfio pren, arddangos technegau cwiltio traddodiadol Gymreig, nyddu a llawer mwy.

"Chwaraeodd Melin Cambrian rôl blaenllaw yn llwyddiant diwydiant gwlân Cymru; gwerthwyd crysau, siolau, blancedi a sanau a gynhyrchwyd yma, dros y byd," dywedodd Ann Whittall, Rheolwr yr Amgueddfa. "Bydd y digwyddiad Crefftau Cefn Gwlad yn tanlinellu'r dalent sydd yn bodoli yn yr ardal o hyd ac yn rhoi cyfle i bobl leol i brynu eu cynnyrch."

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn falch o'u crefftwyr eu hunain hefyd. Mae Keith Rees o Rhos wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers dros 40 mlynedd ac yn gweithredu rhai o'r peiriannau fu'n rhan o'r hen Felin Cambrian. 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.