Datganiadau i'r Wasg

Ar wlân y môr!

Dilynwch y praidd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Pasg am y bydd Blodwen a Swci'r defaid Cymreig yn ymuno â thîm Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Daw ein cyfeillion gwlanog â thipyn bach o naws cefn gwlad i'r ddinas wrth iddynt dreulio'r gwyliau yn y cae o flaen yr Amgueddfa. Bydd gweithgareddau gwlanog i bawb, a dros benwythnosau a gwyliau banc cyfnod y Pasg, bydd cymeriadau hanesyddol yn adrodd straeon am y diwydiant gwlân. Caiff ymwelwyr gyfle hefyd i weld a fydd cywion yr Amgueddfa'n deor mewn pryd ar gyfer y gwyliau. 

Bydd mynediad a'r holl weithgareddau AM DDIM!

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata: 01792 638970 neu e-bostiwch fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk