Datganiadau i'r Wasg

Seren rygbi Cymru yn helpu i lansio’r Mis Amgueddfeydd ac Orielau yng Nghymru

Beth sydd gan drenau, awyrennau a'r arwydd hafal yn gyffredin? Yr ateb yw mai yng Nghymru y tarddodd yr holl ddyfeisiadau hyn a newidiodd y byd.

Caiff ein prif ddyfeiswyr ac arloeswyr eu dathlu yn ystod y Mis Amgueddfeydd ac Orielau ym mis Mai gyda chefnogaeth Ryan Jones, capten Camp Lawn 2006.

Mae Ryan yn angerddol am annog pawb i fanteisio i'r eithaf ar eu hamgueddfeydd ac orielau lleol, nid dim ond am y mis ond am weddill y flwyddyn hefyd.

Dywedodd: "Rwy'n credu'n gadarn ei bod yn bwysig cael teimlad go iawn o le'r ydym yn dod ohono a deall y syniadau o Gymru a helpodd i siapio'r byd yr ydym yn byw ynddo. Mae gen i lawer o atgofion pleserus o ymweld ag amgueddfeydd ac orielau lleol fel plentyn yng Nghasnewydd a chael fy nghyfareddu gan y peintiadau, arddangosfeydd ac arteffactau oedd i'w gweld yno. Rwy'n credu fod y Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn gyfle gwych i annog mwy o bobl i wneud ymdrech ymwybodol i fanteisio ar y diwylliant lleol cyfoethog ar garreg eu drws."

Mae'r Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn ymgyrch a gynhelir ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig ac a gefnogir yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe'i cynhelir rhwng 1-31 Mai ac mae thema eleni, syniadau ac arloesedd, yn galluogi amgueddfeydd ac orielau i ymchwilio talent ddyfeisgar gynhenid Cymru. Bydd yr arddangosiadau arbennig yn cynnwys car Gilbern, yr unig gar i gael ei gynhyrchu'n llwyr yng Nghymru  i deithiau tu ôl i'r llenni yn eich amgueddfa leol.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Treftadaeth: "Roedd y Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn llwyddiant mawr y llynedd ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hynny yn 2008 drwy ddenu hyd yn oed fwy o ymwelwyr i leoliadau ar draws Cymru. Bydd rhywbeth i bawb ac mae'r digwyddiadau ‘Amgueddfeydd Liw Nos' dros benwythnos 17-18 Mai yn sicr o fod yn uchafbwynt i lawer. Nid yw'n rhaid i chi aros tan hynny, pam na ewch draw i'ch amgueddfa leol yr wythnos hon?"

-Diwedd-

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Caroline Holmes yn Working Word PR ar (029) 20488778 neu e-bost caroline.holmes@workingwordpr.com

Os hoffech trefnu cyfweliad efo Rhodri Glyn Thomas , Gweinidog Treftadaeth, cysylltwch â Lowri Jones ar (029) 208988980 os gwelwch yn dda.

Nodiadau i'r golygydd

Mae'r Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn ddathliad o amgueddfeydd ac orielau ar draws y Deyrnas Unedig a gynhelir ym mis Mai. Mae'r gweithgareddau allweddol sydd ar y gweill hyd yma yn cynnwys:

  • Amgueddfeydd ac Orielau 2008 - dydd Iau 1 Mai i ddydd Sadwrn 31 Mai
  • Thema digwyddiadau a gweithgareddau yw ‘Syniadau ac Arloesedd'
  • Cynhelir Penwythnos Amgueddfeydd Liw Nos dros benwythnos dydd Gwener 16-dydd Sul 18 Mai. Bydd y dathliad ar draws Ewrop ddydd Sadwrn 17 Mai a chynhelir Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd ddydd Sul 18 Mai.
  • Cefnogir y Mis Amgueddfeydd ac Orielau yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi'r sector amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru, gweler: www.cymal.wales.gov.uk.
  • Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan www.mgm.org.uk