Datganiadau i'r Wasg

Y Saeson: Cymdogion Cythryblus?

Trafodaeth bryfoclyd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i ddathlu

Dydd Sant Siôr

‘Welsh has no vowels and sounds like someone spitting.’ Dyma’r disgrifiad annifyr o’r iaith Gymraeg a ysgogodd yr awdur Mike Parker i ysgrifennu ei lyfr ‘Neighbours from Hell: English Attitudes to the Welsh.’

 

Bydd Mike Parker, sydd hefyd yn cyflwyno rhaglen ITV Wales ‘Great Welsh Roads,’ yn arwain trafodaeth ar agweddau’r Saeson tuag at y Cymry yn Oriel 1 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar Ddydd Sant Siôr (23 Ebrill 2008). Bydd y Saes sydd erbyn hyn wedi cwympo mewn cariad gyda Chymru, yn ystyried p’run ai yw’r Saeson sy’n ystyried yr iaith Gymraeg yn farw a thirlun Cymru’n ddiwerth, yn gywir.

 

Cynhelir y sgwrs am 3yp, ac fe’i seilir ar lyfr Mike Parker ‘Neighbours from Hell: English Attitudes to the Welsh’ sydd wedi bod yn sail i drafodaethau diddorol ers iddo gael ei gyhoeddi yn Chwefror 2007.  Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr fynegi eu barn – yn Gymraeg neu’n Saesneg.

 

“Rydyn ni wedi cynnal rhaglen amrywiol o sgyrsiau yn Oriel 1 ers iddi agor 12 mis yn ôl,” dywedodd Sioned Hughes, Curadur yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. “Ac rwy’n si?r bydd Mike Parker, a’i syniadau yngl?n â Chymru o ddiddordeb i nifer o bobl - yn Gymry neu beidio. Edrychwn ymlaen at drafodaeth fywiog a gadeirir gan yr awdur sy’n wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, ac erbyn hyn yn cael ei ysbrydoli gan ddiwylliant Cymraeg, ei ffrindiau a thirlun Cymru.”

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon (029) 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.