Datganiadau i'r Wasg

N S Harsha yn ennill £40,000 a Gwobr Artes Mundi 3

Datganiad i’r Wasg 

24 Ebrill 2008    

 

N S Harsha yn ennill £40,000 a Gwobr Artes Mundi 3

 

Heno, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cyflwynwyd gwobr flaenllaw Artes Mundi i’r artist o India, N S Harsha. Jack Persekian, Cadeirydd y Panel y Beirniaid a’r artist Tsieineaidd Xu Bing, beirniad arall ac enillydd Gwobr Artes Mundi 1 yn 2004, gyflwynodd y wobr i Harsha.

 

Mae N S Harsha yn storïwr medrus sy’n cyfuno manylion bywyd pob dydd yn India â’r digwyddiadau mawr a’r delweddau rydyn ni wedi eu gweld ar y newyddion. Mae e wedi troi’r traddodiad peintio miniatur Indiaidd yn ffurf sy’n galluogi iddo gymysgu’r penodol â’r cyffredinol. Mae’n defnyddio hyn i dynnu ein sylw at bethau mympwyol ac abs?rd llawn cymaint â’r trasig a phethau o bwys rhyngwladol. Gellid ei ddisgrifio fel artist/athronydd, sy’n ein galluogi ni i fyfyrio ar y byd o’n cwmpas heb feirniadu.

 

Roedd y panel yn llawn edmygedd owaith yr artistiaid i gyd, ac roedd ceisio penderfynu ar enillydd yn anodd iawn iddynt. “Edrychodd y panel yn fanwl ar waith pob artist dros y 5-8 mlynedd diwethaf a phenderfynwyd cyflwyno’r Wobr i Harsha am y ffordd y mae’n ymdrin mewn ffordd ddwys â thema Artes Mundi, y cyflwr dynol” meddai Jack Persekian. Pwysleisiodd y panel gryfder yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan edmygu cyflwyniadau ardderchog yr holl artistiaid sydd ar y rhestr fer. 

 

Daeth bron i 200 o bobl o’r gymuned celf a busnes rhyngwladol i’r seremoni wobrwyo. Meddai Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru: “Rydw i wrth fy modd i longyfarch N S Harshaar ennill y wobr flaenllaw yma, mae’n gamp aruthrol. Mae Artes Mundi’n fenter bwysig sy’n tynnu ynghyd artistiaid o bedwar ban y byd i gyfrannu at drafodaeth ddiwylliannol, ac mae thema’r ddynoliaeth yn golygu ei bod yn dal dychymyg y cyhoedd. Mae ymateb y cyhoedd yma yn ein hamgueddfa genedlaethol, i weithgareddau artistig y fenter mewn cymunedau o Fôn i Fynwy a’i gwaith gydag ysgolion a cholegau yn dyst i hynny, ac mae hi bellach yn un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol Cymru.” Estynnodd Syr Robert Finch, Cadeirydd Liberty International sy’n cynrychioli Partneriaeth St David’s, yntau ei longyfarchiadau i’r artist buddugol ac i Artes Mundi hefyd gan ddweud “Mae’r arddangosfa a’r wobr gyffrous yma'n ychwanegu llewyrch i Gaerdydd, ac fel noddwr, mae St David’s 2 yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiad diwylliannol yma yn y ddinas.” 

 

Cyflwynir Gwobr £40,000 Artes Mundi bob yn ail flwyddyn, a hi yw gwobr gelf ryngwladol fwyaf y Deyrnas Unedig ac un o wobrau celf mwya'r byd. Mae’n cydnabod artistiaid rhagorol o bedwar ban y byd sy’n dechrau dod i’r amlwg am eu gwaith sy’n trafod y cyflwr dynol. Dyma’r drydedd tro i’r wobr gael ei chyflwyno. Xu Bing enillodd wobr Artes Mundi 1 yn 2004 ac Eija-Liisa Ahtila enillodd wobr Artes Mundi 2 yn 2006.  

 

Am ragor o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch ag Annie Bacon, Artes Mundi

E-bost: anniebacon@artesmundi.org Ffon: 07974 755 164/(029) 20555300 www.artesmundi.org neu Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru

E-bost: sian.james@museumwales.ac.uk Ffon: 07812 801356/(029) 20573175

 

Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 3

15 Mawrth-8 Mehefin 2008

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mynediad am ddim

Ar agor dydd Llun i ddydd Sul a Gwyliau Banc 10 am-5 pm

Ffôn: +44 (0)29 20397951

www.artesmundi.org    www.amgueddfacymru.ac.uk

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Dyfernir Gwobr Artes Mundi bob yn ail flwyddyn i artist rhyngwladol sy’n trafod y cyflwr dynol mewn ffordd ddwys ac sy’n dechrau dod i’r amlwg am waith a grëwyd yn ystod y 5-8 mlynedd diwethaf. Gall yr artist hanu o unrhyw le yn y byd.

 

Ar y rhestr fer roedd: Lida Abdul (Afghanistan), Vasco Araújo (Portiwgal), Mircea Cantor (Rwmania), Dalziel + Scullion (yr Alban), N S Harsha (India), Abdoulaye Konaté (Mali), Susan Norrie (Awstralia) a Rosângela Rennó (Brasil). 

 

Ar Banel Beirniaid Gwobr Artes Mundi 3 roedd: yr artist Tsieineaidd Xu Bing, enillydd Gwobr Artes Mundi 1 yn 2004 a bellach llywydd Academi Celfyddydau Cain Canol Beijing; Jack Persekian, Cyfarwyddwr Biennale Sharjah; Tuula Arkio, curadur ar ei liwt ei hun, awdur a chyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Orielau Celf Cenedlaethol Helsinki a David Alston, curadur a Chyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru. 

 

Dewiswyr Artes Mundi 3 oedd: Isabel Carlos, curadur ar ei liwt ei hun sy’n gweithio yn Lisbon a Bisi Silva, Cyfarwyddwr Canolfan Gelf Gyfoes Lagos a churadur ar ei liwt ei hun.

 

Enillwyr blaenorol Previous Artes Mundi: 2004  Xu Bing; 2006 Eija-Liisa Ahtila.

 

Menter ryngwladol ym maes y celfyddydau gweledol cyfoes yw Artes Mundi. Mae’r fenter wedi ymrwymo i gydnabod gwaith artistiaid cyffrous o bedwar ban y byd sy’n dechrau dod i’r amlwg ac y mae eu gwaith yn gwneud sylw am y cyflwr dynol a’r ddynoliaeth o wahanol safbwyntiau diwylliannol. Bob yn ail flwyddyn, daw eu gwaith i binacl gydag arddangosfa fawr Artes Mundi yng Nghaerdydd, a chyflwyno Gwobr Artes Mundi, gwerth £40,000. Mae rhaglen y fenter hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan artistiaid gwadd, gweithgareddau gydag ysgolion a chymunedau, cynhadledd a rhaglen brynu ar gyfer casgliadau cenedlaethol Cymru.

 

Mae Arddangosfa Artes Mundi yn cynnwys corff o waith gan bob un o’r artistiaid ar y rhestr fer ac fe’i cyflwynir ar y cyd ag Amgueddfa Cymru. Caiff y rhestr fer ei llunio ar ôl proses enwebu rhyngwladol a gwaith ymchwil pellach ar draws y byd gan ddau ddewiswr annibynnol. Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn darparu cyllid er mwyn prynu gwaith rhai o’r artistiaid ar y rhestr fer ar gyfer casgliadau cenedlaethol Cymru. 

 

Sefydlwyd Artes Mundi gan William Wilkins CBE (Cadeirydd) a Tessa Jackson (Prif Weithredwraig/Cyfarwyddwraig Artistig) yn 2002. Fe’i sefydlwyd gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru ac Amgueddfa Cymru, ac mae pob un ohonynt yn bartneriaid o hyd.

 

Mae noddwyr Artes Mundi 3 yn cynnwys datblygiad St David’s 2 fel prif noddwr,  Merrill Lynch Global Wealth Management, noddwr y broses dethol fyd-eang a Gerald Eve, noddwr digwyddiadau cyhoeddi’r rhestr fer. Mae’r noddwyr mawr eraill yn cynnwys Celf a Busnes, Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Foyle, Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

 

 

Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch ag

Annie Bacon neu Nat Slow, Artes Mundi, Ystafell A2.10, UWIC, Campws Llandaf, Western Avenue, Caerdydd CF5 2YB.  Ffôn: +44 (0)29 20555300

E-bost anniebacon@artesmundi.org  Ewch i www.artesmundi.org