Datganiadau i'r Wasg
Yr amgueddfeydd cenedlaethol yn denu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen
Dyddiad:
2008-05-06Daeth bron i 1.7 miliwn o ymwelwyr i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn 2007-08 – y nifer fwyaf erioed a 124% yn fwy na nifer yr ymweliadau a gafwyd yn y flwyddyn ariannol cyn cyflwyno mynediad am ddim yn Ebrill 2001.
Cafwyd cyfanswm o 1,672,677 o ymwelwyr i’r saith amgueddfa genedlaethol – 9% yn fwy na 2006-07 – gan gynnwys record o 674,678 o ymweliadau â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, 353,509 ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays a 264,195 i amgueddfa ddiweddaraf Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru, sef y sefydliad sy’n gweithredu’r amgueddfeydd cenedlaethol, yn priodoli’r llwyddiant ysgubol yma i dri phrif ffactor:
- poblogrwydd parhaus y polisi mynediad am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
- agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2005
- rhaglen gadarn o arddangosfeydd a digwyddiadau i ddathlu Canmlwyddiant yr Amgueddfa yn 2007.
“Cafodd Amgueddfa Cymru ben-blwydd gwych yn 100 oed yn 2007” meddai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mike Houlihan “un rheswm da oedd am fod teuluoedd a phobl o bob cwr o’r wlad a’r tu hwnt wedi ymuno yn y parti i ddathlu canrif o ddiwylliant a dysgu ym meysydd hanes, y celfyddydau a’r gwyddorau natur.
“Ond dim ond un mesur o lwyddiant sefydliad â’r nod o gynnig profiad o ansawdd i’r ymwelwyr yw nifer yr ymwelwyr. Yn ystod y flwyddyn, fe edrychon ni’n ofalus hefyd ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan ofyn i bobl Cymru sut bydden nhw’n hoffi gweld eu hamgueddfeydd cenedlaethol yn datblygu ac yn symud yn eu blaenau.
“Mae eu neges yn glir iawn. Maen nhw am weld amgueddfa ddysg o safon ryngwladol sy’n adrodd cyfoeth o straeon am ddiwylliant, amgylchedd a phobl Cymru i’r byd i gyd.
“Mewn ymateb i’r dyhead yna, mae buddsoddiadau pwysig tymor byr a thymor hir eisoes ar y gweill ym Mharc Cathays yng nghanol Caerdydd ac yn Sain Ffagan.
“Bydd y buddsoddiad ym Mharc Cathays yn ein galluogi ni i arddangos y trysorau celf a’r casgliadau hanes natur yn fwy effeithiol ym Mharc Cathays a bydd yr ail yn galluogi Sain Ffagan i gadarnhau ei statws fel Amgueddfa Werin Cymru ac adrodd stori’r Cymry o’r dechrau’n deg hyd heddiw.”
Ymhlith uchafbwyntiau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru yn 2007 oedd oriel dan do newydd yn Sain Ffagan o’r enw Oriel 1. Mae’r oriel yn defnyddio gwrthrychau, ffotograffau, ffilm, celf a straeon personol i ddangos holl gwmpas y profiadau sydd wedi creu’r Gymru sydd ohoni.
Heidiodd ymwelwyr o Gymru a’r tu hwnt i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf i weld gwaith artistiaid fel Monet, Cézanne a Van Gogh wrth i ni edrych yn ofalus ar stori hynod y casglwyr celf Gwendoline a Margaret Davies yn yr arddangosfa fawr, Diwydiant, Diwylliant.
Ym mis Hydref, denodd agoriad eglwys ganoloesol Sant Teilo yn Sain Ffagan filoedd yn rhagor i weld adeilad hanesyddol ‘newydd’ wedi ei ail-godi yn atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Daeth ein canmlwyddiant i ben ag agoriad arddangosfa Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r arddangosfa archeoleg flaengar hon yn herio’r ymwelwyr i gwestiynu pethau o’r gorffennol mewn ffordd sy’n ein helpu ni i ddeall pwy ydyn ni heddiw.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac. Cynigir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Robin Gwyn ar 07810 657172
Amgueddfeydd y Bobl
www.amgueddfacymru.ac.uk
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays, Caerdydd
Mae
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn unigryw ymysg amgueddfeydd
cenedlaethol Prydain o ran ei amrywiaeth o arddangosfeydd celf a’r
gwyddorau. Yn 2006/07 dechreuodd waith ar ddatblygu Amgueddfa Gelf
benodol i Gymru, i gyd-fynd â’r casgliadau cenedlaethol ym meysydd
Archeoleg a Niwmismateg, Daeareg a Bioamrywiaeth a Bywydeg
Gyfundrefnol.
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan, Caerdydd
Sain
Ffagan yw un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop, ac mae’n
un o’n gr?p o bedair Amgueddfa Hanes Cymdeithasol a Diwydiannol. Gall
ymwelwyr archwilio a mwynhau dros 2,000 o flynyddoedd o hanes mewn dros
ddeugain o adeiladau o bob rhan o Gymru sydd wedi eu hail-godi ar y
safle.
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Blaenafon, Torfaen
Wrth
galon Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon, hen bwll glo go iawn yw Big
Pit. Mae’n cynnig profiad Cymreig unigryw sydd heb ei ail ym Mhrydain.
Yng nghwmni cyn-lowyr, mae’r ymwelwyr yn disgyn dros 90 metr i grombil
y pwll ac yn profi’r tywyllwch llwyr lle byddai’r glowyr yn gweithio
ddydd ar ôl dydd.
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Caerllion, Casnewydd
Sefydlwyd
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Caerllion
ym 1850 ac fe’i trosglwyddwyd ym 1930. Mae’r Amgueddfa wedi bod yn
arddangos casgliad eithriadol o ganfyddiadau Rhufeinig ers dros 150 o
flynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys cerfluniau, arysgrifau, beddrodau,
deunydd adeiladu, mosaig labrinth, offer milwrol, crochenwaith, gwydr a
thlysau. Mae tref Caerllion yn sefyll ar safle un o ddim ond tri
gwersyll parhaol y lleng Rhufeinig ym Mhrydain.
Amgueddfa Lechi Cymru
Llanberis, Gwynedd
Yma
daw stori’r llechi’n fyw yn hen weithdai’r chwarel . Yn ogystal â’r
ffowndri, yr efail, y siediau a’r olwyn dd?r fwyaf sy’n dal i weithio
ym Mhrydain, mae’r crefftwyr medrus yn dangos y grefft o hollti a
naddu’r llechi â llaw.
Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin
Yn
ei chartref wrth galon cefn gwlad y gorllewin, mae’r amgueddfa’n adrodd
stori’r ddeugain melin wlân oedd gynt yn glwstwr o gylch pentref
Dre-fach Felindre. Lleolir yr Amgueddfa yn hen Ffatri Cambrian – yr
unig felin sydd wedi gweithredu’n barhaus ers ei hadeiladu.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Yr Ardal Forwrol, Abertawe
Yng
nghanol adfywiad Ardal Forwrol Abertawe, lleolir Amgueddfa Genedlaethol
y Glannau mewn hen stordy rhestredig wedi ei uno ag adeilad newydd
modern o lechi a gwydr. Bu agoriad yr Amgueddfa yn Hydref 2005 yn
benllanw strategaeth ddeng mlynedd a welodd gwerth £40m o fuddsoddiad
yn ein pedair amgueddfa ddiwydiannol ledled Cymru. Mae’r Amgueddfa’n
rhoi cipolwg difyr ar effeithiau diwydiannu a masnachu dros y môr ar
fywyd yng Nghymru.