Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa ffasiynol

Gweinidog Diwylliant yn agor arddangosfa newydd yn Amgueddfa Wlân Cymru 

Mae’r ffocws ar ffasiwn yn Amgueddfa Wlân Cymru, yn dilyn ei Sioe Steil gyntaf erioed yn Hydref 2007, Sioe Ffasiwn Graddedigion Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru Coleg Sir Gar wythnos diwethaf a nawr agoriad casgliad newydd o ddillad o’r 1960au a 1970au – ‘Celtic Couture.’

Ar ddydd Iau, 3 Gorffennaf 2008, datguddiodd y Gweinidog Diwylliant, ac AC Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr gasgliad o ddillad a wnaed o wlân o Gymru gan y cynllunydd Cymreig - Dr Sheila Harri.

O ‘hot pants,’ dillad hwyliog a chasgliad wedi’i hysbrydoli gan y Mabinogi, mae cyfraniad Dr Harri erbyn hyn yn rhan o’r casgliad gwlân cenedlaethol. Mae pob dilledyn yn arddangos cariad y cynllunydd at frethyn, fel yr eglura Ann Whittall, Rheolwr yr Amgueddfa:

“Daeth ysgogiad Dr Sheila Harri i ddefnyddio brethyn Cymreig o’i hatogfion melys o blentyndod yng Nghymru, ei theulu ac awydd i gadw cwlwm Cymreictod wrth fyw oddi cartref. Mae ei gwaith yn flas cyfoes ar batrymau traddodiadol Cymreig, ac yn gyferbyniad i’r eitemau mwy confensiynol a gysylltir â gwlân yng Nghymru.

“Bu’r diwydiant gwlân yn bwysig iawn i’r economi yng Nghymru, ac mae ffocysu ar ddefnydd Dr Harri o wlân Cymreig yn dystiolaeth o’i ddylanwad oddi cartref hefyd.”

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhodri Glyn Thomas

"Rwy'n falch iawn o fod yma i agor yr arddangosfa newydd yma o eitemau unigryw sy'n dangos defnydd modern o gynnyrch Cymreig traddodiadol. Bydd y casgliad yn ychwanegu at y stori ddiddorol dros ben sydd gan yr Amgueddfa i'w hadrodd am y diwydiant gwlân a'r bobl fu'n ennill eu bara menyn yn y melinau."

Bydd yr Amgueddfa’n parhau i adeiladu ar y thema ffasiwn drwy gydol yr haf gyda chyfres o weithdai. Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau’r Amgueddfa ar www.amgueddfacymru.ac.uk

Cynigir mynediad am ddim i gasgliad ‘Celtic Couture’ a’r Amgueddfa yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: (029) 2057 3185 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk