Datganiadau i'r Wasg

Goroesiad Go Arbennig Diptych Gothig Prin – yn Gyfan

Cafodd dau banel ifori cerfiedig canoloesol a wahanwyd flynyddoedd maith yn ôl, eu haduno yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddoe (Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2008) ac fe'u gwelir yn yr Amgueddfa o ddydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2008.

Caiff y diptych – sef gwrthrych â dau blât gwastad a gysylltir â cholfach – ei arddangos yn gyflawn yn ystod dathliadau Wythnos Genedlaethol Archeoleg yr Amgueddfa, diolch i’r canoloeswr Dr Mark Redknap.

Darganfuwyd y panel de wrth ddymchwel ‘hen d?’r ffynnon’ yn Llandaf ym 1836, a daeth i feddiant Amgueddfa Cymru ym 1901. Dros ganrif yn ddiweddarach, wrth i Dr Redknap weithio’n hwyr un noson yn ymchwilio i hanes a dyddiad y panel ar gyfer agoriad Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sylweddolodd ei fod wedi ffeindio cymar y panel.

“Wrth chwilio trwy gatalog o wrthrychau ifori a pharatoi ar gyfer Gwreiddiau, sylwais i fod addurniadau, mesuriadau, cyflwr a lleoliad colfachau ein ‘darn Llandaf‘ ni’n cyd-fynd â phanel ifori chwith mewn llun yn y cyhoeddiad,” meddai Dr Redknap. “Roedd hi’n un o’r eiliadau ‘eureka’ yna. Roeddwn i ar bigau’r drain eisiau mynd i’r gwaith drannoeth i gadarnhau fy amheuon.”  

Mae panel dde y diptych, a wnaed ym Mharis ym 1340/60 yn dangos Crist ar y groes gyda Mair ac Ioan fel dyn ifanc. Roedd yr ochr chwith, sy’n dangos Mair Forwyn a’i phlentyn, Pedr ac Ioan yng Ngaleri Gelf Walker, Amgueddfa Lerpwl.  

Dywedodd Robin Emmerson o Amgueddfa Lerpwl:
“Rydyn ni’n falch iawn o ddarganfyddiad Dr Redknap ac yn bles iawn i allu uno dwy ochr y cerfiad ifori.”

Bwriad diptychau a thriptychau (delweddau dau a thri phanel) oedd peri i’r gynulleidfa ganoloesol fyfyrio am fywyd a dioddefaint Crist. Yn ystod y 13eg a’r 14eg ganrifoedd, roedd Paris yn ganolfan bwysig i wneuthurwyr y pethau defosiynol yma o ifori, yn ogystal ag eitemau secwlar fel cesys drychau, blychau a chribau. 

Caiff y diptych gwreiddiol llawn ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 12 mis diolch i haelioni Amgueddfa Lerpwl. Pan fyddwn ni’n dychwelyd y gwreiddiol, caiff copi resin o’r panel chwith wedi ei dorri â laser – a gomisiynwyd yn 2007 – ei arddangos yn ei le. 

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’n dathlu Wythnos Genedlaethol Archeoleg gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau (12-20 Gorffennaf). Caiff ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 15 a 16 Gorffennaf gyfle i helpu arbenigwyr yr Amgueddfa i roi crochenwaith o’r 13eg a’r 14eg ganrif, a ffeindiwyd yn ystod gwaith cloddio yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf, nôl at ei gilydd. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk i weld rhestr gyflawn o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau.

Mae mynediad i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru’n rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, a threfnu cyfweliadau a chyfleoedd i dynnu lluniau, ffoniwch Catrin Mears, y Swyddog Cyfathrebu, ar (029) 2057 3185/(07920) 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i‘r Golygydd:

Mae gweithgareddau Wythnos Genedlaethol Archeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagans: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru yn cynnwys:

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru


•    Gwyliwch waith cloddio go iawn a rhowch gynnig ar rai gweithgareddau archeoleg ar gyfer y teulu.
12 Gorffennaf 11am-4pm a 13 Gorffennaf 2pm-4pm

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
•    Gweithdai Celf yr Ogofâu
Dilynwch y Llwybr Anifeiliaid  o amgylch yr arddangosfa Gwreiddiau anhygoel, dewch i weld Oriel Ddarganfod Glanely i gyffwrdd a gweld rhai gwrthrychau gwreiddiol ac yna rhowch gynnig ar greu eich celf ogofâu eich hun.   
12 a 13 Gorffennaf  10am-5pm

•    Ail-greu’r Gorffennol
Yn 2002, darganfuwyd llawer o grochenwaith o’r 13eg–14eg ganrif yn ystod gwaith cloddio yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf. Helpwch ein harbenigwyr i roi’r llestri hyn yn ôl at ei gilydd eto.
Mae llefydd yn brin - argymhellir bwcio: (029) 2057 3148.
15 a 16 Gorffennaf, 11am, 12pm, 2pm a 3pm

•    Trysorau Bychain
Trysorwyd gleiniau gwydr fel addurnau a swynoglau am dros 4,000 o flynyddoedd. Dysgwch ragor am y gleiniau sydd yn ein casgliadau, a gwyliwch wneuthurwr gleiniau arbenigol yn ail-greu ein gleiniau Rhufeinig, Oes Haearn a Llychlynnaidd gan ddefnyddio technegau a deunyddiau’r oes.
19 a 20 Gorffennaf, 10am-4pm 


Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
•    Rhoi’r Haearn yn Oes yr Haearn
Dewch i weld gwaith haearn go iawn yn y Pentre Celtaidd.
12 a 13 Gorffennaf, 11am-4pm

•    Torri’r Mowld
Wedi i chi gael eich ysbrydoli gan y darnau o grochanau a bowlenni o’r gwaith  cloddio yn Llan-maes, ymunwch â’n harbenigwyr wrth iddynt archwilio’r broses o gastio a gweithio efydd. 
17-19 Gorffennaf , 11am – 4pm

•    Wedi’r Wledd?
Bydd archeolegwyr yn cyflwyno cyfres o ddarlithoedd trwy’r dydd ar ddarganfyddiadau diweddar yn dilyn gwaith cloddio mewn man cyfarfod hynafol yn Llan-maes. Rhywbeth i gnoi cil arno!
Mae llefydd yn brin. Bwciwch wrth gyrraedd.
18 Gorffennaf, 10am-5pm
Caiff y diptych - sef gwrthrych â dau blât gwastad a gysylltir â cholfach - ei arddangos yn gyflawn yn ystod dathliadau Wythnos Genedlaethol Archeoleg yr Amgueddfa, diolch i'r canoloeswr Dr Mark Redknap.

Darganfuwyd y panel de wrth ddymchwel ‘hen d?'r ffynnon' yn Llandaf ym 1836, a daeth i feddiant Amgueddfa Cymru ym 1901. Dros ganrif yn ddiweddarach, wrth i Dr Redknap weithio'n hwyr un noson yn ymchwilio i hanes a dyddiad y panel ar gyfer agoriad Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sylweddolodd ei fod wedi ffeindio cymar y panel.

"Wrth chwilio trwy gatalog o wrthrychau ifori a pharatoi ar gyfer Gwreiddiau, sylwais i fod addurniadau, mesuriadau, cyflwr a lleoliad colfachau ein ‘darn Llandaf‘ ni'n cyd-fynd â phanel ifori chwith mewn llun yn y cyhoeddiad," meddai Dr Redknap. "Roedd hi'n un o'r eiliadau ‘eureka' yna. Roeddwn i ar bigau'r drain eisiau mynd i'r gwaith drannoeth i gadarnhau fy amheuon."   

Mae panel dde y diptych, a wnaed ym Mharis ym 1340/60 yn dangos Crist ar y groes gyda Mair ac Ioan fel dyn ifanc. Roedd yr ochr chwith, sy'n dangos Mair Forwyn a'i phlentyn, Pedr ac Ioan yng Ngaleri Gelf Walker, Amgueddfa Lerpwl.   

Dywedodd Robin Emmerson o Amgueddfa Lerpwl:
"Rydyn ni'n falch iawn o ddarganfyddiad Dr Redknap ac yn bles iawn i allu uno dwy ochr y cerfiad ifori."

Bwriad diptychau a thriptychau (delweddau dau a thri phanel) oedd peri i'r gynulleidfa ganoloesol fyfyrio am fywyd a dioddefaint Crist. Yn ystod y 13eg a'r 14eg ganrifoedd, roedd Paris yn ganolfan bwysig i wneuthurwyr y pethau defosiynol yma o ifori, yn ogystal ag eitemau secwlar fel cesys drychau, blychau a chribau.  

Caiff y diptych gwreiddiol llawn ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 12 mis diolch i haelioni Amgueddfa Lerpwl. Pan fyddwn ni'n dychwelyd y gwreiddiol, caiff copi resin o'r panel chwith wedi ei dorri â laser - a gomisiynwyd yn 2007 - ei arddangos yn ei le.  

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n dathlu Wythnos Genedlaethol Archeoleg gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau (12-20 Gorffennaf). Caiff ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 15 a 16 Gorffennaf gyfle i helpu arbenigwyr yr Amgueddfa i roi crochenwaith o'r 13eg a'r 14eg ganrif, a ffeindiwyd yn ystod gwaith cloddio yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf, nôl at ei gilydd. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk i weld rhestr gyflawn o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau.

Mae mynediad i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru'n rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

I gael rhagor o wybodaeth, a threfnu cyfweliadau a chyfleoedd i dynnu lluniau, ffoniwch Catrin Mears, y Swyddog Cyfathrebu, ar (029) 2057 3185/(07920) 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i‘r Golygydd:

Mae gweithgareddau Wythnos Genedlaethol Archeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagans: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru yn cynnwys:

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Gwyliwch waith cloddio go iawn a rhowch gynnig ar rai gweithgareddau archeoleg ar gyfer y teulu.

12 Gorffennaf 11am-4pm a 13 Gorffennaf 2pm-4pm

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

  • Gweithdai Celf yr Ogofâu

Dilynwch y Llwybr Anifeiliaid  o amgylch yr arddangosfa Gwreiddiau anhygoel, dewch i weld Oriel Ddarganfod Glanely i gyffwrdd a gweld rhai gwrthrychau gwreiddiol ac yna rhowch gynnig ar greu eich celf ogofâu eich hun.    
12 a 13 Gorffennaf  10am-5pm

  • Ail-greu'r Gorffennol

Yn 2002, darganfuwyd llawer o grochenwaith o'r 13eg-14eg ganrif yn ystod gwaith cloddio yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf. Helpwch ein harbenigwyr i roi'r llestri hyn yn ôl at ei gilydd eto.
Mae llefydd yn brin - argymhellir bwcio: (029) 2057 3148.
15 a 16 Gorffennaf, 11am, 12pm, 2pm a 3pm

  • Trysorau Bychain

Trysorwyd gleiniau gwydr fel addurnau a swynoglau am dros 4,000 o flynyddoedd. Dysgwch ragor am y gleiniau sydd yn ein casgliadau, a gwyliwch wneuthurwr gleiniau arbenigol yn ail-greu ein gleiniau Rhufeinig, Oes Haearn a Llychlynnaidd gan ddefnyddio technegau a deunyddiau'r oes.
19 a 20 Gorffennaf, 10am-4pm  


Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

  • Rhoi'r Haearn yn Oes yr Haearn

Dewch i weld gwaith haearn go iawn yn y Pentre Celtaidd.
12 a 13 Gorffennaf, 11am-4pm

  • Torri'r Mowld

Wedi i chi gael eich ysbrydoli gan y darnau o grochanau a bowlenni o'r gwaith  cloddio yn Llan-maes, ymunwch â'n harbenigwyr wrth iddynt archwilio'r broses o gastio a gweithio efydd.  
17-19 Gorffennaf , 11am - 4pm

  • Wedi'r Wledd?

Bydd archeolegwyr yn cyflwyno cyfres o ddarlithoedd trwy'r dydd ar ddarganfyddiadau diweddar yn dilyn gwaith cloddio mewn man cyfarfod hynafol yn Llan-maes. Rhywbeth i gnoi cil arno!
Mae llefydd yn brin. Bwciwch wrth gyrraedd.
18 Gorffennaf, 10am-5pm