Datganiadau i'r Wasg

Yn eisiau: Landrover Cyfres 2

Mae 50 mlynedd bellach ers sefydlu archif sain yn Amgueddfa Werin Cymru - hanner canrif ers i staff Sain Ffagan deithio ledled y wlad mewn Landrover a charafán i gofnodi hanesion ac arferion ein cyndeidiau.

Bydd Amgueddfa Cymru'n nodi'r garreg filltir arbennig hon yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd 2008. I ychwanegu at y dathliadau, mae'r Amgueddfa'n chwilio am Landrover Cyfres 2 gwyrdd, tebyg i'r cerbyd a ddefnyddiwyd nôl yn y 50au, i'w arddangos wrth ei stondin.

Yn 1958, gwnaed apêl ar y radio gan yr Athro Griffith John Williams am arian i alluogi Sain Ffagan i greu archif o dystiolaeth lafar. Heddiw, mae'r Amgueddfa'n apelio ar unrhyw un sy'n berchen ar gerbyd petrol o'r math hwn, â thop caled, sylfaen olwyn byr ac sy'n barod i'w menthyg i Sain Ffagan dros dro, i gysylltu â Meinwen Ruddock ar 029 2057 3427 neu Lowri Jenkins ar 029 2057 3444.

"Byddai'n gret petawn ni'n medru canfod Landrover," meddai Meinwen Ruddock, Archifydd. "Mae recordio siaradwyr ar agweddau o'u bywyd pob dydd a diwylliant yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Edrychwn ymlaen at gael rhannu gwybodaeth gydag ymwelwyr i'n stondin yn yr Eisteddfod yngl?n â'r modd y casglwyd hanes llafar ar y dechrau, a'r 11,000 o recordiadau sydd gennym erbyn hyn. Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr yn dod o hyd i aelodau o'u teuluoedd eu hunain yn ein casgliad!"

Bydd cyfle i ymwelwyr â stondin Amgueddfa Cymru fwynhau hel atgofion ac ail-fyw hanes mewn t? Prefab o'r 1950au, a chael eu hysbrydoli gan weithiau celf adnabyddus. Cynhelir cyfres o sgyrsiau yn ystod yr wythnos hefyd:

  • Celf y Dyfodol gan yr artist Iwan Bala ac Ann Jones, Curadur Prosiectau Casgliad, Cyngor Celfyddydau Lloegr (Dydd Llun, 4 Awst am 3pm)
  • Ein Canmlwyddiant gyda'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas (Dydd Mawrth, 5 Awst am 3pm)
  • Gwyddoniaeth y Dyfodol - ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd (Dydd Mercher, 6 Awst am 2pm)
  • Sir Benfro mewn celf - rhagolwg o Oriel y Parc: oriel gelf newydd Tyddewi (Dydd Gwener, 8 Awst am 3pm)
  • Hanes y Dyfodol - Dr Beth Thomas yn trafod gorffennol a dyfodol Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Dydd Sadwrn, 10 Awst am 3pm).

Cynigir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
 
Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.