Datganiadau i'r Wasg

Galw am fynegiadau o ddiddordeb: Celf Cymru Gyfan

Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau tair blynedd arall o gyllid gan Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn i ddatblygu Celf Cymru Gyfan, y bartneriaeth celfyddyd weledol a gafodd ei phrofi rhwng 2005 a 2008. Yn achos y cynllun gwreiddiol gweithiodd yr amgueddfa gyda phum canolfan celf ranbarthol sefydlog, pob un ohonynt â chylch gwaith gwahanol, yn cynnwys sefydliad wedi'i selio ar gasgliadau, dau ofod arbennig ar gyfer celf gyfoes, canolfan celf a chrefft gymwysedig ac amgueddfa t? hanesyddol. Amrywiodd y projectau o arddangosiadau bach un artist, i arddangosfeydd arolwg mwy, ac roedd yn cynnwys comisiynau mawr newydd, nifer o gyfleoedd i ddatblygu artistiaid, a pherthynas gwaith â nifer o bartneriaid. Er mai nod tymor hir y cynllun yw cynyddu hygyrchedd y casgliad celf, mae Amgueddfa Cymru'n bwriadu ehangu cwmpas Celf Cymru Gyfan, yn nhermau'r canolfannau partner cymwys yn ogystal â'r projectau sy'n cael eu cyflawni.

Mae Amgueddfa Cymru felly'n gwahodd cynigion ar gyfer projectau gan sefydliadau â diddordeb mewn gweithio gyda'r amgueddfa a'i chasgliadau celf. Rydym yn edrych yn enwedig am brojectau sy'n ymdrin â'r casgliad gyda dychymyg, gan gyfrannu at drafodaethau a gwella'r ddealltwriaeth am gelf hanesyddol a chyfoes drwy ail-feddwl am gyd-destun gwrthrychau cyfarwydd, a rhai llai cyfarwydd. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn projectau a fydd yn gweithredu fel sbardun ar gyfer comisiynau celf newydd, projectau ag elfen addysgiadol gref, a rhai fydd yn meithrin rhwydwaith partneriaethau eang oddi fewn i'r gymuned a thu hwnt. Dylai'r projectau gynnwys arddangos gweithiau o'r casgliad (yn amodol ar amodau benthyg safonol), ond gall hyn fod yn hyblyg (gweler y ‘Canllawiau ac awgrymiadau'
isod).

Mae'r amgueddfa'n bwriadu cefnogi hyd at dri phroject y flwyddyn. Rydym yn awyddus i annog amrywiaeth mor eang â phosib o gynigion, o rai sy'n canolbwyntio ar weithiau unigol i arddangosfeydd/ digwyddiadau mawr. Nid oes unrhyw syniad sy'n rhy fach i gael ei ystyried, er bod cyfyngiad ar uchafswm y cyllid a ddarperir gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pob project - dewisir y projectau graddfa-fawr ar sail y tebygolrwydd bod cyllid ychwanegol yn cael ei sicrhau (gan y ganolfan partner).

Noder bod Celf Cymru Gyfan ar gyfer projectau ar-y-cyd yn unig - gall canolfannau barhau i wneud ceisiadau i fenthyg arddangosion yn y ffordd arferol.

Sut i wneud cais

Anfonwch amlinelliad o'ch syniad (uchafswm o 500 gair) fel mynegiad o ddiddordeb. Mae'n ofynnol eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

· Disgrifiad o'r project, a'i berthnasedd i gasgliadau celf yr amgueddfa
· Amcangyfrif bras o gost y project - rydym yn hapus i'ch cynghori yngl?n â hyn
· Unrhyw bosibiliadau am gyllid ychwanegol os oes angen
· Awgrym am y cyfnod/ dyddiad cwblhau, er y dylid nodi bod amseru'r project i'w gytuno gydag Amgueddfa Cymru ac y dylid cwblhau pob project erbyn Ebrill 2011


Os bydd eich syniad chi'n cyrraedd y rhestr fer, bydd gofyn i chi ddatblygu cynnig llawn gydag Amgueddfa Cymru.

Os ydych yn ansicr os yw'ch project yn gymwys, edrychwch ar yr adrannau ‘Meini Prawf' a ‘Canllawiau ac awgrymiadau' ar ddiwedd y ddogfen hon. Neu, os hoffech drafod eich syniad posib, neu os ydych angen mwy o wybodaeth am Celf Cymru Gyfan neu'r casgliadau celf yn Amgueddfa Cymru, cysylltwch â Bryony Dawkes ar 029 2057 3138 neu trwy'r cyfeiriad e-bost isod.

Dylid anfon mynegiadau o ddiddordeb naill ai trwy'r post neu trwy e-bost:

Bryony Dawkes
Curadur Projectau Partneriaeth
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
bryony.dawkes@amgueddfacymru.ac.uk

Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw 29 Awst 2008.

Celf Cymru Gyfan — ArtShare Wales
Celf Cymru Gyfan — ArtShare Wales


Meini Prawf

Asesir y syniadau am brojectau yn erbyn y meini prawf canlynol:
· Safon y cynnig a'i berthnasedd i ganlyniadau sydd wedi'u diffinio'n glir ar gyfer y project, e.e. cynulleidfaoedd, ymchwil newydd ayyb
· Bod modd eu cyflawni o fewn i'r cyfyngiadau amser ac adnoddau
· Cydbwysedd y projectau ar draws y cynllun
· Argaeledd casgliadau Amgueddfa Cymru, a'u haddasrwydd ar gyfer maint corfforol y ganolfan partner (e.e. diogelwch, amgylchedd, mynediad)
· Dichonolrwydd anghenion cyllid pellach


Mae Amgueddfa Cymru'n anelu i wneud Celf Cymru Gyfan yn gynllun eang a chynhwysol, a'r prif nod yw bod y project yn ymgysylltu gydag Amgueddfa Cymru ac unrhyw agwedd o'i chasgliadau celf. Fodd bynnag, nid yw ei gwmpas yn cynnwys y

canlynol:

· Projectau cyfalaf
· Cyllid ar gyfer benthyg arddangosfeydd blaenorol a grëwyd gan Amgueddfa Cymru
· Projectau sy'n gymwys o dan Cyfoeth Cymru Gyfan, neu rai a ellir eu cyflawni trwy Ar Dir Cyffredin
· Cyllid at ddibenion caffael
· Estyniadau o brojectau sydd eisoes yn bodoli
· Projectau y gellid eu cyflawni heb gyllid Celf Cymru Gyfan

Canllawiau ac awgrymiadau

Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu potensial Celf Cymru Gyfan

· Gwahoddir cynigion oddi wrth bob canolfan/ sefydliad (nid amgueddfeydd ac orielau'n unig), boed yn fawr neu'n fach.
· Ystyrir cynigion ar-y-cyd oddi wrth un sefydliad neu fwy
· Ystyrir cynigion oddi wrth artistiaid (nid yn unig rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau gweledol) sydd am weithio gydag Amgueddfa Cymru, ei chasgliadau a chanolfan partner - anogir ymdriniaethau amlddisgyblaethol
· Nid oes rhaid i brojectau fod yn arddangosfeydd penodol - ystyrir unrhyw broject â chanlyniad pendant, e.e. seminarau, arddangosfeydd, perfformiadau, cyhoeddiadau ayyb, ond mae'n rhaid cael elfen o arddangos a/neu gysylltiad cryf â'r casgliadau
· Gall projectau fod o unrhyw faint - disgwylir i brojectau mwy sicrhau cyllid cyflenwol
· Gallai Amgueddfa Cymru a'i safleoedd weithredu fel lleoliadau ar gyfer
projectau llawn, neu brojectau ar-y-cyd, ar gyfer cynigion partneriaid sydd heb adnoddau i fenthyg gweithiau celf
· Anogir projectau sy'n cynnwys projectau addysgol arloesol, a rhai sydd â pherthnasedd lleol ac sy'n ceisio datblygu perthynas leol
· Anogir projectau â photensial i gael mynediad at ffynonellau cyllido ychwanegol