Datganiadau i'r Wasg

Haf o Gariad yn Amgueddfa'r Glannau

Os ydych chi'n chwilio am ramant yr haf yma, yna beth am alw draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe am noson Cwrdd a Chymysgu arbennig ar gyfer pobl 35 i 55 oed?

Cynhelir y noson mewn partneriaeth â Spark Dating a dyma'r ail ddigwyddiad o'r fath i gael ei gynnal yn yr Amgueddfa arobryn. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ym mis Ionawr, ar noswyl Santes Dwynwen - gan ddenu dros 60 o bobl.

Datblygodd sawl cyfeillgarwch ar y noson ac mae'r trefnydd Jayne Davies yn gobeithio gweld sbardun cariad unwaith eto.

"Mae'r Amgueddfa'n gefndir perffaith ar gyfer yr achlysur. Mae'n lle o safon ac rydyn ni'n si?r y bydd yn denu pobl debyg sy'n chwilio am gyfeillgarwch neu gariad," meddai.

Argymhellir bwcio trwy ffonio: 07913 803655 neu fynd i www.spark-dating.co.uk a'r pris fydd £15 sy'n cynnwys diod wrth gyrraedd a bwyd bys a bawd.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata: 01792 638970 neu e-bostiwch fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk