Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Ymddeoliad Ray Smith, Uwch Saer

 Datganiad i’r Wasg
31.07.08

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.  Ymddeoliad Ray Smith, Uwch Saer.

Wedi mwy nac wyth mlynedd ar hugain yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ar ddydd Gwener 1 Awst, bydd y saer Ray Smith yn ymddeol.

Daeth y g?r tal â’i wên lydan a’i acen gref o Sir Faesyfed yn ffefryn mawr gyda’r miloedd o ymwelwyr i Sain Ffagan.  Daeth yn dipyn o ‘seleb’ hefyd wrth ymddangos yn gyson ar y teledu a’r radio.

Crwt o Sir Faesyfed yw Ray, ac yn falch i gael datgan hynny.  Mae’n hanu o deulu o grefftwyr gwledig, roedd ei dad yn saer maen, a theulu ochr ei fam yn seiri coed. 

Gadawodd Ray yr ysgol yn bymtheg oed i weithio gyda saer lleol ac ymhen hir a hwyr helpodd i sefydlu Amgueddfa Seidr Henffordd.  Ym 1980, ymunodd â’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan ac mae ôl ei law ar sawl un o adeiladau’r amgueddfa awyr agored; roedd yn gyfrifol nid yn unig am y gwaith cynnal-a-chadw, ond hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatgymalu a dogfennu’r gwaith coed cyn symud yr adeiladau yn y lle cyntaf.

Llafur cariad Ray ydy Eglwys Sant Teilo, eglwys ganoloesol a symudwyd o’i chartref gwreiddiol ger Pontarddulais ac a agorwyd gan Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams ym mis Hydref 2007.  Yn yr eglwys fe allwn ni weld ffrwyth llafur Ray; fe ddewisodd y coed derw unigol er mwyn eu dymchwel a’u naddu yn drawstiau a sgriniau. Canlyniad ei grefftwaith ef yn ogystal ag ymchwilio gwaith coed  mewn eglwysi yng Nghymru a Lloegr ac oriau o ymarfer, yw’r cerfiadau cywrain a’r gwaith coed trawiadol a welir yn yr eglwys heddiw.

Dywedodd Gerallt Nash, curadur adeiladau:

“Yng ngwir draddodiad eglwysi canoloesol, mae Ray wedi cerfio ei enw ar y llofft grog yn yr eglwys, ond mae Ray hefyd wedi gadael ei nod mewn mwy nac un ffordd ar weithwyr Sain Ffagan ac ymwelwyr yr Amgueddfa; bydd colled mawr ar ei ôl e.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.


DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION

Am wybodaeth i’r wasg a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu.
Ffôn: (029) 2057 3486 / 07920 027 054
E-bost: iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk
Cliciwch: www.amgueddfacymru.ac.uk


*         Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.