Datganiadau i'r Wasg

Tafarn yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. 03.08.08, 2pm: Trafferth Mewn Tafarn: Ymryson y Beirdd - Talwrn Ymladd Ceiliogod 07.08.08, 11am - 1pm a 2pm-3pm: ‘Tafarn yr Iorwerth Peate' - Talwrn Ymladd Ceiliogod Mynediad am ddim Oriau agor: Mae Sain Ffagan ar agor bob dydd, 10am-5pm

Datganiad i'r Wasg 24.07.08

Tafarn yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Wrth i'r Amgueddfa Werin ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed, am y tro cyntaf erioed, bydd tafarn yn cael ei hagor yn yr Amgueddfa Werin, sef "Tafarn yr Iorwerth Peate".

Roedd sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru, Dr Iorwerth C. Peate, yn erbyn codi tafarn ar y safle, ond mae'r artist Bedwyr Williams yn mynnu mai dyma sydd ei angen ar Sain Ffagan er mwyn adlewyrchu bywyd y Cymry, ac felly bydd yn creu tafarn y tu mewn i hen dalwrn ymladd ceiliogod.

Am 2pm, ddydd Sul, 3 Awst, bydd Bedwyr ac eraill yn cymryd rhan mewn ymryson y beirdd yn y Talwrn o dan y teitl "Trafferth Mewn Talwrn" a Twm Morys fydd y Meuryn. Mi fydd rhaid cadw lle ymlaen llaw, drwy ffonio (029) 2057 3424.

Ar ddydd Iau, 7 Awst, bydd cyfle i ymwelwyr ymweld â "Thafarn yr Iorwerth Peate" ac ymuno â Bedwyr Williams am ddiod fach ac efallai chwarae ambell i gêm dafarn.

Meddai Bedwyr Williams:

"Y rheswm mai pub ydw i wedi ei ddewis ydi nad oedd Iorwerth Peate eisiau gweld tafarn yn Sain Ffagan, er dwi'n si?r fod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn cytuno hefo fi fod angen tafarn Gymreig yn yr Amgueddfa Werin - a dyna pam rydw i wedi enwi'r dafarn ar ei ôl o.

"Hefyd roedd Dr Peate yn barddoni, felly pa well lle i gynnal Talwrn y Beirdd nag mewn tafarn, mewn talwrn go iawn?"

Adeiladwyd talwrn Sain Ffagan yn wreiddiol y tu allan i dafarn yr ‘Hawk and Buckle' yn Ninbych yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac fe'i ail-godwyd yn yr Amgueddfa ym 1970.

Byddai pobl yn tyrru i'w talyrnau lleol er mwyn gweld gornestau gwaedlyd lle byddai ceiliogod yn ymladd hyd angau. Roedd mynd mawr ar y gamblo, ac roedd y gornestau'n swnllyd ac yn anhrefnus, gan droi'n flêr iawn aml i dro.

Fydd 'na ddim gamblo na gwaed yn Nhalwrn Sain Ffagan yn ystod wythnos gyntaf Awst, ond bydd cyfle unigryw i weld un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru yn perfformio ei grefft wreiddiol. Hefyd, gellir mwynhau peint o gwrw lleol diolch i Fragdy Rhymney Brewery, Dowlais.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Am wybodaeth i'r wasg a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu. Ffôn: (029) 2057 3486 / (07920) 027 054 E-bost: iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk Cliciwch: www.amgueddfacymru.ac.uk

• Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru. • Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw un o noddwyr y digwyddiad - nhw hefyd yw prif noddwyr Oriel 1, un o atyniadau newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae'r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

BYWGRAFFIAD YR ARTIST

Bedwyr Williams Ganed Bedwyr Williams yn Llanelwy ym 1974 ac fe'i magwyd ym Mae Colwyn. Graddiodd gyda BA mewn Celf Gain yn Central St Martins School of Art ym 1997 gan ennill cymhwyster cyfwerth ag MA Iseldiraidd yn Ateliers, Arnhem. Yn dilyn cyfnod yn Llundain, dychwelodd i'r gogledd, i Rostryfan ger Caernarfon.

Mae'n creu ac yn defnyddio fideo, ffotograffau, perfformiadau, darlunio, ysgrifen, barddoniaeth, karaoke a chomedi stand-yp i fynegi ei hunan. Roedd ar restr-fer BECKS Futures yn 2006, cynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis yn 2005, ac enillodd wobr fawreddog Paul Hamlyn Award for Visual Art yn 2004.