Datganiadau i'r Wasg

Robert Haines: Un Tro yng Nghymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Oriel 1 Sgwrs ac Arwyddo Llyfr: 3pm, 12 Gorffennaf 2008 Arddangosfa: Dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf 2008 - Rhagfyr 2008 Mynediad am Ddim Oriau Agor: Mae Sain Ffagan ar agor pob dydd, 10am-5pm

 

Robert Haines: Un Tro yng Nghymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Oriel 1 Sgwrs ac Arwyddo Llyfr: 3pm, 12 Gorffennaf 2008 Arddangosfa: Dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf 2008 - Rhagfyr 2008 Mynediad am Ddim Oriau Agor: Mae Sain Ffagan ar agor pob dydd, 10am-5pm

Datganiad i'r Wasg 8 Gorffennaf 2008

Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2008, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cynnal arddangosfa o waith y ffotograffydd Cymreig enwog Robert Haines. Bydd Robert Haines yn siarad am ei luniau yn Sain Ffagan am 3pm, 12 Gorffennaf 2008.

Yn y 1970au cynnar, fe aeth Robert Haines yn ôl i'w wreiddiau i gofnodi'r cymeriadau unigryw oedd yn byw ym mro ei febyd sef Heolgerrig ger Merthyr Tudful. Mae Once Upon a Time in Wales yn cynnig cipolwg unigryw ar orffennol diflanedig.

Cymuned glos, Cymraeg ei hiaith oedd Heolgerrig ar un adeg. Yn gymuned lofaol, gweithiai'r rhan fwyaf o'r dynion yn gweithio dan-ddaear, ac roedd fel petai bywyd yn cylchdroi o amgylch y capel a'r dafarn. Roedd gan Merthyr, a fu unwaith yn brifddinas Haearn y Byd, enw am fod yn ddinas galed gyda chymeriadau caled fel Melvin Webber, a gafodd ei saethu'n farw.

Roedd y Saithdegau cynnar yn amser a welodd lawer o newidiadau, ac o edrych ar ffotograffau'r arddangosfa heddiw, mae rhai o'r cymeriadau'n edrych fel eu bod wedi crwydro o'r ganrif flaenorol. Tynnodd Haines luniau o'r bobl leol â brwdfrydedd ac egni. Roedd yn adnabod rhai o'r cymeriadau'n dda, tra bod eraill yn ddiarth iddo. Treuliodd llawer eu hamser yn y dafarn, roedd eraill yn gweithio dan-ddaear, ac roedd amodau byw'n aml yn dlodaidd. Mae'r ffotograffau'n darlunio byd gwahanol iawn i'r un rydyn ni'n ei adnabod heddiw.

Mae hanesyn i gyd-fynd â phob un o luniau Haines; atgofion yw'r rhain - straeon am arwyr lleol - sy'n aml yr un mor ddifyr â'r llun.

Bydd Robert Haines yn yr Amgueddfa Werin am 3pm, 12 Gorffennaf i siarad am ei waith a'r arddangosfa, a bydd wrth law i lofnodi'r llyfr sy'n cyd-fynd â'r arddangosfa. Bydd y lluniau i'w gweld yn Sain Ffagan tan fis Rhagfyr 2008.

‘Mae Once Upon a Time in Wales yn arddangosfa deithiol Light House.'

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

DIWEDD

CYHOEDDIAD: Gellir prynu llyfr darluniadol Robert Haines - Once Upon a Time in Wales - yn siop yr Amgueddfa. Cyhoeddir y llyfr gan Dewi Lewis Publishing. Pris £14.99.

NODIADAU I OLYGYDDION: Am wybodaeth i'r wasg a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu. Ffôn: 029 2057 3486 / 07920027054 E-bost: iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk Cliciwch: www.amgueddfacymru.ac.uk • Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

BYWGRAFFIAD ARTIST: Ganed Robert Haines ym Merthyr ym Mawrth 1952, ac fe'i magwyd yn Heolgerrig, pentref bychan ar gyrion y dref. Mae ganddo fagloriaeth mewn Celf Ffotograffig gan Brifysgol Westminster, Llundain, ac mae wedi dilyn gyrfa mewn ffilm a ffotograffiaeth olygyddol. Mae wedi gweithio fel dyn camera, ffoto-newyddiadurwr a phartner mewn asiantaeth newyddion. Roedd Robert yn gweithio yng Nghymru ta 2004 ac mae nawr yn byw yn Malvern gyda'i bartner Dorothy. Mae ganddo fab o'r Enw Ollie. Yn 2006, dilynodd yrfa newydd ym maes ffotograffiaeth artistic. Mae'n aelod o Charlet Photographies sydd wedi'u lleoli yn Ffrainc, a chynrychiolir ef gan Dominic Charlet ym Mharis.