Datganiadau i'r Wasg

Ei bywyd trwy gelf: Casgliad Winifred Coombe Tennant ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bu’n gefnogwr brwd o Lloyd George, roedd yn aelod o’r orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwisgai’r wisg draddodiadol Gymreig bob dydd a heddiw fe’i hadnabyddir fel un o noddwyr celf pwysicaf yr 20fed ganrif. Agorwyd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 26 Gorffennaf 2008 sy’n archwilio bywyd Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956) a fu’n ffrindiau gydag artistiaid ac yn casglu eu gweithiau celf, gyda’r gobaith o greu casgliad gelf cenedlaethol.

Llynedd, dangosodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd arddangosfa boblogaidd o weithiau celf a gasglwyd gan Gwendoline a Margaret Davies. Mae Bywyd trwy gelf yn canolbwyntio ar Winifred Coombe Tennant – menyw arall a ddylanwadodd yn fawr ar gynnydd celf yng Nghymru.

Roedd gan Winifred Coombe Tennant ddiddordeb mewn artistiaid oedd yn gweithio yng Nghymru. Roedd ganddi weithiau celf gan Evan Walters, Kyffin Williams, Gwen John a John Elwyn, a’r rheiny a greodd cysylltiad rhwng ei dwy hoff wlad – Cymru a Ffrainc. Yn berson o gyfoedd cymhedrol, fe gynorthwyodd yr artistiaid gyda chefnogaeth personol ac fe’i chymeradwywyd am ei gwaith yn natblygiad paentwyr ifanc Cymreig.

Casgliad hi ei hun yw Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy gelf yn bennaf. Fe’i guradwyd gan yr hanesydd celf Peter Lord ac mae’n cynnwys gweithiau gan artistiaid roedd hi’n eu hadnabod yn bersonol. Arddangosir dros 80 o baentiadau, rhai ohonynt yn weithiau a brynodd i Oriel Glynn Vivian pan oedd yn werthwr swyddogol iddynt, rhai eraill i’w hun.

“Mae’r mwyafrif o’r gweithiau’n yr arddangosfa o gasgliadau preifat felly dyma gyfle unigryw i bawb eu mwynhau,” dywedodd Beth McIntyre, Curadur, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. “Ac nid ydynt yn cael eu harddangos ar ben eu hunain. Mae’r dyddiaduron a llythyron sy’n cyd-fynd â’r paentiadau yn dweud mwy wrthym am ei pherthynas gyda’r artistiaid oedd yn gweithio yng Nghymru ar ddechrau’r 20fed ganrif.

”Er mwyn adlewyrchu ei chariad tuag at waith Kyffin Williams, bydd yr Amgueddfa’n arddangos amrywiaeth eang o’i baentiadau. Hi oedd noddwr cyntaf Evan Walters a’r pwysicaf. Roedd ganddi 49 o’i weithiau. Pan oedd yn ifanc roedd yn adnabod Gwen John ac ystyriodd cwrdd ag Agustus John ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn un o uchafbwyntiau ei bywyd.”

Bydd Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 26 Gorffennaf hyd at 9 Tachwedd 2008 a chynigir mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Trefnwyd yr arddangosfa gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 / 07920 027067 neu

ebostiwch

.

Nodiadau i Olygyddion

Rhagor am Winifred Coombe Tennant:

  • Yn 1895, priododd Winifred Coombe Tennant â Charles Coombe Tennant o Cadoxton Lodge, Castell Nedd ble y bu am 30 mlynedd cyn symud i Lundain.
  • Er nad oedd yn siaradwraig Cymraeg, roedd yn aelod o’r Orsedd fel meistres y gwisgoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1927/28.
  • Credai’n gryf dros heddwch rhyngwladol a chynrychiolodd y Deyrnas Unedig fel cennad Cynghrair y Cenhedloedd.
  • Hi oedd y cyfrwng seicig a astudiwyd fanylaf yn ystod ei chyfnod.
  • Profodd Winifred gyflyrau breuddwydiol a wnaeth iddi gredu’n gryf ym mharhad bywyd unigolyn ar ôl marwolaeth.
  • Carai Cymru a Ffrainc a’r paentwyr a gysylltodd y ddwy wlad oedd o ddiddordeb iddi yn negawd olaf eu bywyd.