Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru'n dangos cefnogaeth i ddathliadau Pythefnos Bwyd Môr Cenedlaethol Gwesty'r Hilton

Bydd ymwelwyr i un o westai pennaf dinas Caerdydd yn cael rhannu danteithion dau gogydd, wrth iddynt ddod a'u bwyd blasus o'r gegin i mewn i'r dderbynfa.

Cynhelir yr arddangosiadau bwyd byw rhwng 5 a 7 yr hwyr dros y pythefnos nesaf (hyd at 19 Medi) yng ngwesty pum seren yr Hilton yng nghanol Caerdydd, er mwyn dathlu Pythefnos Bwyd Môr Cenedlaethol. Yn cyfrannu at ymdrechion y gwesty, bydd gwyddonwyr morol Amgueddfa Cymru yn rhannu gwybodaeth ar fwyd a bywyd môr.  

Gall ymwelwyr drio bwyd môr a baratoir o'u blaenau - blas iddynt o'r fwydlen arbennig a gynigir ym Mwyty Razzi'r gwesty. A diolch i gyfraniad yr Amgueddfa, gallant hefyd ddarganfod mwy am amryw o anifeiliaid môr, y diwydiant pysgota ac ymchwil morol Amgueddfa Cymru.  

Pwrpas y digwyddiad yw annog ymwelwyr a gwesteion i ddysgu mwy am fwyd môr o stoc gynaliadwy a blasu mwy ohono. Mae'n canolbwyntio'n arbennig ar bwysigrwydd bwyta pysgod o leiaf dwywaith yr wythnos gan ei fod yn cynnwys protein, fitaminau a mwynau sy'n bwysig i ni.

Cynigir mynediad am ddim i safleodd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.