Datganiadau i'r Wasg

Dathlu arwr o Gymru

Diwrnod Owain Glynd?r yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

 Mae nifer yn credu mai Owain Glynd?r, a sefydlodd senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth yn 1404, yw un o arwyr pwysicaf hanes ein gwlad. Am 3 y prynhawn ar ddydd Mawrth, 16 Medi 2008, bydd un o'n harwyr barddonol ni, Iwan Llwyd yn trafod yr arweinydd cenedlaethol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Bydd y Prifardd Iwan Llwyd yn trafod cyfeiriadau at Owain Glynd?r, a frwydrodd dros annibyniaeth i Gymru yn y 15fed ganrif, mewn barddoniaeth, a hyn yn dilyn diwrnod yng nghwmni disgyblion o Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Cynhelir sesiwn barddoni i'r ysgol yn ffermdy Hendre'r Ywydd, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd sef ardal yr ymgyrch gyntaf. Bydd Iwan Llwyd hefyd yn defnyddio Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan, sy'n debyg iawn i Eglwysi cyfnod Glynd?r.

Yn ôl Ken Brassil, Swyddog Addysg Amgueddfa Cymru: "Roedd Owain Glynd?r yn rhan mor allweddol o ddatblygiad Cymru fel cenedl, mae'n bwysig rhoi'r cyfle i ymwelwyr a phobl ifanc ddysgu mwy am hanes Cymru ar Ddiwrnod Owain Glynd?r. Rydyn ni'n ei gofio ar Fedi'r 16eg oherwydd ar y diwrnod hwnnw yn 1400, y cafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru."

Bydd cyflwyniad i'r tywysog gan Geraint Thomas yn Oriel 1 am 1 y prynhawn hefyd.

Ceir mynediad am ddim i'r amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a cheir rhagor o wybodaeth ar y wefan www.amgueddfacymru.ac.uk. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185, 07920 027067 neu e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.