Datganiadau i'r Wasg

Beth gawson ni gan y Rhufeiniaid?

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n datgelu cyfrinachau byd garddio'r Rhufeiniaid.

Credir taw'r Rhufeiniaid oedd y bobl gyntaf i dyfu cennin ym Mhrydain. Mae'r llysiau hyn yn symbol o Gymru heddiw, ond roedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio i ychwanegu blas at eu stiw.

A pha arferion garddio eraill gawson ni gan y Rhufeiniaid? Agorwyd gardd Rufeinig newydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n swyddogol i'r cyhoedd ar 24 Medi 2008, gan roi cyfle i ymwelwyr ddysgu am fywydau ac arferion y Rhufeiniaid oedd yn byw yn Isca, neu Gaerllion heddiw.

Y triclinium oedd y gazebo Rhufeinig, ac rydyn ni'n dal i ddefnyddio eu technegau 2,000 mlwydd oed fel troi'r pridd yn yr hydref, cymysgu compost, hofio gwelyau a phlannu hadau yn y gwanwyn. Cyflwynodd y Rhufeiniaid sawl rhywogaeth o blanhigion cyfarwydd i Brydain hefyd.

"Rydyn ni wedi defnyddio olion archeolegol a gwaith ymchwil i ddehongli Gardd Rufeinig," meddai Andrew Dixey, Rheolwr Ystadau Amgueddfa Cymru. "Daeth y Rhufeiniaid i Brydain yn 43 OC gan ddod â'u syniadau eu hunain am erddi gyda nhw. Ond am fod yr hinsawdd yn wahanol, doedden nhw ddim yn gallu tyfu cymaint o amrywiaeth o lysiau ag yr oedden nhw dramor. Rydyn ni wedi ceisio ail-greu sut byddai gardd Rufeinig wedi edrych."

Roedd gerddi Rhufeinig yn llefydd delfrydol i ymlacio ac yn berffaith i groesawu gwesteion. Y Rhufeiniaid oedd rhai o'r bobl gyntaf i ddefnyddio gerddi i addurno, gan ddefnyddio llawer o blanhigion lliwgar, addurniadau carreg a photiau addurnol. A dweud y gwir, roedden nhw'n gweld eu gerddi fel estyniad o'u cartrefi.

Ond roedd pwrpas ymarferol iddynt hefyd. Roedd gerddi Rhufeinig yn llefydd i dyfu llysiau, ffrwythau a pherlysiau fel rhosmari, teim a mintys, oedd yn cael eu defnyddio i goginio ac iacháu.

Mae'r Amgueddfa wedi plannu perthi sgwâr, llawryf a gwinwydd i ddringo dros y triclinium. Bydd rhai o'r planhigion yn gyfarwydd iawn i'r ymwelwyr, bydd eraill yn blanhigion y byddan nhw'n gyfarwydd â nhw ond heb eu cysylltu â'r Rhufeiniaid, tra bydd ambell i beth annisgwyl fel y marchddanadl du a gwyn.

Mae Bethan Lewis, Rheolwraig Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, wedi bod yn gwylio twf yr ardd: "Mae'r ardd Rufeinig yn cyfoethogi ein dehongliad o Gaerllion Rufeinig ac mae'n ychwanegiad arbennig am taw staff yr Amgueddfa a gwirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi'n ymchwilio ac yn creu'r ardd. Rydyn ni'n denu tua 70,000 o bobl y flwyddyn ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr newydd sydd am gael cyngor garddio gan y Rhufeiniaid."

Mae'r ardd Rufeinig yn creu cefndir newydd a ffres ar gyfer llawer o'r gweithgareddau sy'n digwydd yn yr Amgueddfa, sy'n cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.