Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn cyrraedd 100,000 o ymwelwyr

Croesawodd staff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymwelydd rhif 100,000 i arddangosfa archeolegol newydd y safle heddiw (26 Medi 2008), ychydig dros naw mis ar ôl iddi agor.

Lansiwyd Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar, sy'n dilyn straeon dyfodiad y bobl gyntaf 230,000 o flynyddoedd yn ôl, hyd ddiwedd y canoloesoedd ar 8 Rhagfyr 2007. A llai na blwyddyn yn ddiweddarach, mae 100,000 o bobl wedi mwynhau'r arddangosfa sy'n cynnig dealltwriaeth ddyfnach i ni o'n gwreiddiau.

Mae nifer fawr o'r rheiny sydd wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers Rhagfyr y llynedd - 36% o gyfanswm o 279,134 o bobl - wedi bod i weld Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar.

"Mae hyn yn llwyddiant mawr i ni fel adran ac Amgueddfa," dywedodd Richard Brewer, Pennaeth Archeoleg Amgueddfa Cymru, sydd wrth ei fodd gyda'r newyddion. "Mae Gwreiddiau wedi helpu i wneud archeoleg yn fwy perthnasol i'n hymwelwyr. Mae pobl eisiau gwybod pwy oedd ein cyndeidiau, sut oedden nhw'n wahanol i ni, a beth sydd wedi newid drwy'r oesoedd. Mae'r elfennau hyn i gyd yn ein helpu ni i ddeall pwy ydym ni."

Mae'r arddangosfa'n ffocysu ar gasgliadau archeolegol hynod a'u straeon. Mae elfennau'n newid yn gyson; saethyddiaeth yw'r thema gyfredol (tan 7 Rhagfyr 2008) sy'n edrych ar saethyddion a saethyddiaeth o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y Canol Oesoedd.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.