Datganiadau i'r Wasg

Gwaith celf o Aberfan yn dod i Gaerdydd o Efrog Newydd

Mae gosodwaith fideo a grëwyd i goffáu 40 mlynedd ers trychineb Aberfan yn mynd i gael premiere byd mewn oriel nodedig yn Efrog Newydd.

Bydd The Attraction of Onlookers: an Anatomy of a Welsh Village, gan yr artist byd-enwog Shimon Attie, ar ddangos yn Oriel Jack Shainman yn Efrog Newydd o 23 Medi hyd at 4 Hydref 2008.

Treuliodd Attie nifer o fisoedd yn Aberfan yn gweithio gyda’r trigolion i greu gosodwaith fideo yn 2006. I greu’r gosodwaith, gofynnodd Attie i’r pentrefwyr osod eu hunain mewn ystumiau a fyddai’n adlewyrchu eu rôl gymdeithasol neu alwedigaethol yn y pentref, tra ‘roedd ef yn eu ffilmio ar lwyfan cudd oedd yn cylchdroi’n araf. Defnyddiodd dechnegau llwyfan a goleuo i greu gosodwaith fideo a ffotograffau llonydd o ffigurau allweddol y pentref, fel dyn y siop sglodion, y cyn-löwr, y prifathro, y gweinidog, y paffiwr, aelodau’r côr meibion, eu harweinydd a’r barman.

Derbyniodd y project gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a chyllid trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Meddai Rhodri Morgan, y Prif Weinidog: “Roedd trychineb Aberfan, a ddinistriodd gymuned gyfan, yn foment ddiffiniol yn hanes Cymru … Rwy’n si?r y bydd y gwaith hwn yn brofiad cathartig a chadarnhaol i drigolion Aberfan, wrth ddod at ei gilydd fel cymuned i siarad am eu profiadau a’u teimladau trwy gyfrwng celfyddyd gyfoes. Rwy’n bles iawn fod y gwaith hwn yn mynd i gael cydnabyddiaeth ryngwladol.”

I gyd-fynd â’r arddangosfa, cyhoeddwyd llyfr o’r un teitl gan Panthian Books, ac mae’r BBC wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen, An American in Aberfan, yngl?n â’r broses o greu’r gwaith.

Mae Attie hefyd wedi cydweithio gyda Gwyneth Lewis, cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, i greu cerdd ar gyfer The Attraction of Onlookers.

Meddai Attie: “Cefais bleser mawr o dreulio cyfnod yng Nghymru yn gweithio gyda chymaint o bobl ddiddorol a thalentog - dim ar The Attraction of Onlookers yn unig, ond ar ddarnau eraill hefyd. Bu’n bleser arbennig creu barddoniaeth gyda Gwyneth Lewis ac i weithio gyda’r golygydd talentog Dylan Evans yn stiwdio gynhyrchu Mwnci. Rwy’n gobeithio y bydd modd parhau’r berthynas a dod a mwy o fusnes i Gymru yn y dyfodol.”

Bydd y gwaith hwn yn ymddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddechrau Rhagfyr 2008.