Datganiadau i'r Wasg

£1m i roi hwb i fyd celf Cymru

Heddiw (dydd Mawrth, 14 Hydref), cafodd ymgyrch i ailwampio orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hwb ariannol gwerthfawr ar ffurf buddsoddiad cyfalaf gwerth £1m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae ailwampio lloriau uchaf adain y gorllewin yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn flaenoriaeth i Amgueddfa Cymru wrth iddi symud i gyfeiriad sefydlu Oriel Genedlaethol.

Dywedodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, “Bydd yr ailddatblygiad hwn yn creu bron i 40% yn fwy o le i arddangos casgliadau celf Cymru, a fydd yn ein galluogi ni i ddangos ein casgliad gwych o weithiau a grëwyd ers 1950. Bydd cwblhau’r ailddatblygiad yn ehangu ac yn gwella’r orielau arddangos, ac yn ein galluogi ni i adrodd straeon am gelf ryngwladol a Chymreig dros bum canrif hyd heddiw.”

Er nad yw’r cynlluniau manwl wedi cael eu cwblhau eto, lle i arddangos celf ddiweddar a chyfoes fydd adain y gorllewin. Bydd y lle cyfan yn ddigon o faint i gynnal arddangosfeydd mawr dros dro o gelf fodern neu gyfoes.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhyddhau £1m i Amgueddfa Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn gwireddu’r project. Ar ôl cwblhau project adain y gorllewin, bydd llawr cyntaf yr Amgueddfa i gyd yn lle i arddangos celf, gan sicrhau bod holl bobl Cymru’n cael mwynhau’r Casgliadau Cenedlaethol.

Ceir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled y wlad sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175 neu e-bostiwch sian.james@amgueddfacymru.ac.uk