Datganiadau i'r Wasg
Billy Elliot yn ysgafn droed yn Big Pit
Dyddiad:
2008-10-16Daeth cast sioe fawr y West End, Billy Elliot, am ymweliad arbennig â Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ddydd Sul diwethaf.
Daeth cast y sioe, sy'n adrodd stori bachgen ifanc sydd eisiau dawnsio, ac a seiliwyd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn ystod Streic Glowyr 1984/85, i Big Pit i gael gwell ymdeimlad o stori'r diwydiant glo a chlywed y cyn-lowyr byd-enwog sy'n mynd ag ymwelwyr dan ddaear yn rhannu eu profiadau am y streic.
Wrth ddisgrifio'r ymweliad, meddai Nick Evans, Cyfarwyddwr Preswyl Billy Elliot: "Roeddem ni am ddod â'r cast a'r criw newydd i lawr i Big Pit er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt am gefndir y diwydiant a'r anghydfod diwydiannol sy'n rhoi blas arbennig i'r sioe gerdd.
"Fe ddes i i Big Pit fel bachgen ysgol o Abertawe, ac mae atgofion am y profiad wedi aros gyda mis byth ers hynny. Roeddwn i'n teimlo'n gryf y byddai'r cast yn gwerthfawrogi'r un profiad wrth iddynt baratoi ar gyfer eu rhan yn y sioe."
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.