Datganiadau i'r Wasg
Cofio Aberth Milwyr Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Dyddiad:
2008-11-06
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Cofeb Trecelyn
Gwasanaeth Cofio: 10.50am, 8 Tachwedd 2008 Mynediad am Ddim
Oriau Agor: Mae Sain Ffagan ar agor pob dydd, 10am-5pm
Datganiad i'r Wasg
6 Tachwedd 2008
Dydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2008, bydd Gwasanaeth Coffa ger Cofeb Rhyfel Trecelyn - sydd erbyn hyn yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae'r gwasanaeth i gofio aberth milwyr yn y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill, yn cael ei gynnal am 10.50 am gyda'r Dirprwy Arglwydd Raglaw - yr asgell-gomander Graham Morgan, Don Touhig AS, cangen Trecelyn y Lleng Brydeinig a chyn-filwyr.
Cyn dechrau'r gwasanaeth, am 10.30am bydd y Parchedig Jefford yn arwain gorymdaith o brif fynedfa'r Amgueddfa i'r gofeb; bydd dau funud o ddistawrwydd am 11am. Croeso i ymwelwyr ymuno yn y gwasanaeth a fydd yn cynnwys seremoni gosod torch o flodau.
Roedd y gofeb fechan yn sefyll uwchben tref ddiwydiannol Trecelyn ger Caerffili yn wreiddiol; fe'i codwyd ym 1936 i gofio 79 milwr lleol fu farw yn y Rhyfel Mawr. Yn ddiweddarach, rhoddwyd plac ar y gofeb i gofio'r 37 milwr lleol fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd y gofeb ei hail-gyflwyno yn Sain Ffagan ym 1996 ac rydyn ni'n cynnal gwasanaeth bob blwyddyn i gofio'r gw?r a'r gwragedd o Gymru a gollodd eu bywydau ar faes y gad.
Dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Werin:
"90 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Mawr, mae'n fraint i'r Amgueddfa allu cynnal y gwasanaeth gyda changen Trecelyn o'r Lleng Brydeinig. Mae'n gyfle i ni gyd dalu gwrogaeth i'r gw?r a'r gwragedd dewr a gollodd eu bywydau yn ymladd dros heddwch a rhyddid"
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- DIWEDD -
NODIADAU I OLYGYDDION:
Am wybodaeth i'r wasg a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu. Ffôn: 029 2057 3486 / 07920 027054 E-bost: iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk Cliciwch: www.amgueddfacymru.ac.uk
· Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.