Datganiadau i'r Wasg

Noson Arbennig mewn Lleoliad Arbennig

Young Marble Giants yn chwarae fel rhan o ?yl S?n Caerdydd yn yr amgueddfa

 Efallai bod y triawd ôl-bync sy'n ffurfio'r band o Gaerdydd, Young Marble Giants, ac un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Caerdydd yn swnio fel cyfuniad rhyfedd, ond am 7:30pm heno (nos Wener 14 Tachwedd 2008), bydd yn dod yn realiti.

Mae G?yl S?n - tri diwrnod o gerddoriaeth byw a digwyddiadau ledled Caerdydd wedi'i guradu gan y DJ Huw Stephens o BBC1 - yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am y tro cyntaf eleni. Bydd yr ?yl yn agor gydag un o hoff fandiau Kurt Kobain, Young Marble Giants.

Mae S?n ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hapus iawn i groesawu'r band - Philip a Stuart Moxham a'r gantores Alison Statton - yn ôl i'w cynefin wedi 30 mlynedd. Er cyn lleied y maent wedi'i recordio, yr Young Marble Giants yw un o'r bandiau ôl-bync sy'n debyn clod ucha'r beirniaid. Felly dyma gyfle prin i weld un o fandiau mwyaf unigryw eu cenhedlaeth mewn lleoliad unigryw - Theatr Reardon Smith.

Er bod digwyddiadau poblogaidd fel Cyngherddau Coffi a pherfformiadau organ yn nodweddion rheolaidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'n un o nifer o amgueddfeydd sy'n cynnig rhaglen gerddorol blaengar gyda'r gobaith o ddenu cynulleidfa ehangach. Perfformiodd Nick Cave yn ddiweddar yn Tate Britain, Duran Duran yn y Louvre a Simian Mobile Disco yn Amgueddfa Hanes Natur America.

Bydd Theatr Reardon Smith, a enwyd ar ôl un o brif gefnogwyr yr amgueddfa ac a adeiladwyd ym 1932, hefyd yn croesawu Euros Childs, sydd newydd lansio ei bedwerydd albwm, Cheer Gone. Bydd yn perfformio yn yr amgueddfa nos Sadwrn 15 Tachwedd (o 7:30pm ymlaen) a dydd Sul 16 Tachwedd bydd Gwyl S?n a'r Cyngor Prydeinig yn cyflwyno Fernhill, Sild a Georgia Ruth Williams (dechrau am 7:30pm).

"Fel Amgueddfa Genedlaethol rydym yn hapus i gefnogi g?yl gerddoriaeth mor ddeinamig â S?n," meddai Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni, Amgueddfa Cymru. "Nid ydym yn ceisio trawsffurfio'r Amgueddfa yn lleoliad ‘hip' a threndi. Fel adeilad nodweddiadol a sefydliad sy'n ganolog i fywyd diwylliannol Caerdydd a Chymru, mae'r Amgueddfa'n lleoliad delfrydol i ail-danio dychweliad pwysig Young Marble Giants.

"Wrth ddathlu thema ‘Cerddoriaeth' yn 2009, mae'r Amgueddfa'n gobeithio y bydd y flwyddyn hon yn ddechrau perthynas rhwng S?n ac Amgueddfa Cymru."

I ategu'r rhaglen gerddorol, cynhelir gweithdy Sleeveface yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dydd Sul 16 Tachwedd rhwng 11am - 4pm. Enw yw Sleeveface am y grefft o ddal clawr record o flaen eich wyneb a thynnu llun ohono! Crëwyd y ffenomen gan sylfaenydd Swn, John Rostron a Carl Morris, a bellach mae'r ffenomen wedi lledaenu ledled y byd. Ewch i www.sleeveface.com <http://www.sleeveface.com/> i ddysgu mwy.

Mae bandiau garddwrn ar gyfer holl ddigwyddiadau G?yl S?n yn costio £45 ac maent yn cynnwys mynediad i bob digwyddiad ar sail ‘cyntaf i'r felin'. Bydd pris unigol i'w dalu wrth y drws ym mhob un o'r digwyddiadau hefyd, ond rhoddir blaenoriaeth i bobl â bandiau garddwrn. Mae'r bandiau garddwrn ar gael i'w prynu o siop yr Amgueddfa yn y Brif Neuadd.

Am ragor o wybodaeth am ?yl S?n, ewch i www.swnfest.co.uk <http://www.swnfest.co.uk/>. Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. - Diwedd - Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

Young Marble Giants

Mor unigryw a chaled â Joy Division ond â naws tipyn yn llai melancolaidd, mae'n bosib mai'r unig reswm iddynt fethu ennill enwogrwydd ehangach oedd eu penderfyniad i ddiflannu'n raddol, oherwydd gwahaniaethau cerddorol, yn hytrach na chwythu eu plwc yn derfynol fel y gwnaeth Ian Curtis.

Calon s?n unigryw Young Marble Giants yw cymysgedd rhyfedd o gitâr fas steel-hawser Philip, rhythmau gitâr ac alawon organ iasol a rhythmig Stuart, gyda llais datgysylltiedig Statton yn hongian yn y gofod rhyngddynt. Fe gynhyrchwyd eu halawon isafol a thawel mewn cyfnod pan oedd eu cyfoedion naill ai'n onglog ac yn grac, neu'n cael eu gor-gynhyrchu ac yn mynd yn hen ffasiwn.

Euros Childs

Fel arweinydd Gorkys Zygotic Mynci, roedd Euros Childs yn gyfrifol am fand a aeth â'r iaith Gymraeg at gynulleidfa eang, mewn modd na lwyddodd neb i'w wneud o'r blaen. Parodd eu sleisiau dwyieithog o gerddoriaeth pop-gwerin secedelig am dros naw albwm, gan wneud Gorkys yn drysor cenedlaethol ac Euros yn seleb o'i anfodd. Dechreuodd Euros ei yrfa fel artist unigol ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd yn 30 oed. Mae bellach wedi rhyddhau pedwar albwm yn ei enw ei hun. Mae ei gerddoriaeth o hyd wedi bod yn gyfuniad o gerddoriaeth pop a gwerin, ond mae wedi gwthio'r ffiniau i bob math o gyfeiriadau ac mae pob un o'i recordiau yn hyfryd yn ei ffordd unigryw ei hun. Ar gyfer ei albwm diweddaraf, Cheer Gone, fe deithiodd i Nashville gan recriwtio cerddorion i chwarae'r lap steel, gitâr acwstig, banjo, ffidl a'r bass. Mae llais crynedig, a geiriau llawen straeon hapus ei ganeuon yn hollol unigryw.

Fernhill

Ffurfiwyd Fernhill ym 1996 pan gwrddodd y gantores, Julie Murphy, a'i g?r (a chyd-aelod o'r band) Ceri Rhys Matthews, pan oeddynt yn fyfyrwyr yn y coleg celf, cyn symud i'r gorllewin. Mae Fernhill wedi ennill clod pawb sydd wedi clywed eu cerddoriaeth gwerin flaengar. Er iddo gael ei eni yn Essex, mae Murphy'n ddysgwr Cymraeg brwd, ac yn helpu i gyflwyno caneuon gwerin Cymreig hynafol i gynulleidfaoedd ledled y byd. Cerddoriaeth gwerin, ond â blas gwahanol.