Datganiadau i'r Wasg

Golau, camera, ewch!

Michael Sheen, Connie Fisher a John Humphrys ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae ffotograffwyr ifanc o Gymru wedi cael y cyfle i ddisgleirio ymysg rhai o sêr enwocaf y wlad.

Mae'r ffotograffwyr Sam Mason, Dafydd Bland a Zac Mead - ennillwyr Y Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol 2008 - wedi cynhyrchu portreadau newydd cyffrous a fydd ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 25 Tachwedd 2008 ymlaen.

Zac Mead, a raddiodd o Ysgol Gelf Gorllewin Cymru eleni dynnodd y portread o Michael Sheen, yr actor Cymreig a enwebwyd am BAFTA a Gwobr Laurence Olivier. Port Talbot, sef cartref Cymreig Sheen, oedd y lleoliad, er nad dyna brif ystyriaeth Zac:

"Roedd Michael Sheen yn bwysicach i mi na'r dirwedd, er y gallai'r cefndir fod yn glawr albwm!" meddai Zac. "Dewisais dynnu llun o wyneb difynegiant i gael cymaint â phosib allan o'r model. Mae hyn yn gam mawr ymlaen i mi, a minnau newydd raddio pum mis yn ôl. Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at bethau mwy a gwell."

Tipyn o ddamwain oedd astudio ffotograffiaeth i Sam Mason, y ffotograffydd 22 oed a dynnodd lun Connie Fisher. Fe'i cynghorwyd i ddewis testun difyr ar gyfer ei bedwerydd pwnc ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Dewisodd ffotograffiaeth, a heddiw gall fod yn falch iawn o'i bortread o seren The Sound of Music, Connie Fisher.

Hoffai Sam gyflawni rhywbeth trwy ffotograffiaeth sydd heb gael ei gyflawni o'r blaen. Meddai:

"Rwy'n deall bod hyn yn eithaf uchelgeisiol, ac efallai na fyddaf byth yn cyrraedd yr uchelfannau rwy'n anelu amdanynt, ond mae'n rhywbeth i weithio tuag ato'n gyson. Rwy'n mwynhau'r cydbwysedd rhwng crefftwaith y cyfrwng a'r creadigrwydd, ac mae deall pwysigrwydd y ddau yn fy ngalluogi i greu fy ngwaith."

Hyfforddwyd Dafydd Bland hefyd ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Ei dasg oedd portreadu'r cyflwynydd John Humphrys, sy'n enwog am ei gyfweliadau di-flewyn-ar- dafod ar raglen materion cyfoes Radio 4, Today. Meddai Dafydd:

"Roeddwn wedi ymchwilio llawer i'r math o ddelwedd yr oeddwn am ei chreu, ac ymwelais â'r stiwdio radio sawl gwaith i bwyso a mesur fy newisiadau. Ar ôl nifer o drafodaethau gyda John ei hun, cytunodd y ddau ohonom ar y math o ddelwedd y byddwn yn ei greu."

Graddiodd Dafydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn ffotograffiaeth ddogfennol, ac mae'n gobeithio parhau ei ymroddiad i'r cyfrwng. Ym Mehefin 2008 arddangoswyd ei waith yn arddangosfa ‘Off The Real', yn Candid Arts Space, Llundain. Mae ennill Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol yn uchafbwynt arall iddo.

Meddai Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau Amgueddfa Cymru, ac aelod o'r panel beirniadu:

"Fel Amgueddfa, rydym yn ymroddedig i arddangos Celfyddyd Gymreig, o'r hanesyddol i'r cyfoes. Rydym wrth ein bodd ein bod ni'n gallu ehangu ein casgliad portreadau â rhai o'r wynebau cyfoes hyn, ac rydym yn falch o fedru cefnogi ffotograffwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd a fydd, rwy'n si?r, yn llwyddiannus."

Mae'r Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol, a arweinir gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain yn gystadleuaeth gyda'r nod o ganfod ffotograffwyr ifanc talentog yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth, a noddir gan Mr Producer Ltd, yn agored i bobl sydd wedi graddio o golegau Cymreig ers 2000.

Mae portreadau blaenorol yn cynnwys Archesgob Caergaint, Y Gwir Barchedig Dr Rowan Williams, Y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, y cynhyrchydd teledu a sgriptiwr Dr Who, Russell T. Davies, a'r delynores Catrin Finch.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

• Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol Mae'r Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol, a arweinir gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain yn dangos gwaith ffotograffwyr newydd mwyaf talentog Cymru.

Mae pob ffotograff yn ceisio adrodd stori bersonol gref am y modelau. Cyflawnir hyn drwy gyfathrebu cyson rhwng y ffotograffydd a'r model i greu'r darlun terfynol mwyaf ysbrydoledig posib.

Mae'r panel yn dewis modelau sydd â chysylltiad â Chymru ac wedi rhagori yn eu maes. Sefydlwyd y comisiwn i gefnogi ffotograffwyr newydd ac mae'n agored i bobl sydd wedi graddio o goleg Cymreig ers 2000.

Bydd y portreadau'n ffurfio rhan o gasgliad parhaol yr Amgueddfa, a bydd y copïau hefyd yn cael eu hychwanegu at gasgliadau'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

• Panel y Comisiwn - Beth McIntyre, Curadur (Printiau a Darluniau) Amgueddfa Cymru - Charlotte Topsfield, Curadur Cynorthwyol (Printiau a Darluniau), Amgueddfa Cymru - Sian James, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru - Terence Pepper, Curadur Ffotograffau, Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain - Yr Athro Ann Sumner, Cyfarwyddwr, Sefydliad Celfyddyd Gain Barber, Prifysgol Birmingham - Ric Bower, Ffotograffydd

• Mr Producer, Noddwyr Y Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol Roedd Asiantaeth Selebs Mr Producer wrth eu boddau i noddi'r project hwn. Meddai Stifyn Parri, y Rheolwr Gyfarwyddwr: "Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i greu a rheoli rhai o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy Cymru, ac mae wedi bod yn anrhydedd cael rhoi rhywbeth yn ôl trwy gefnogi'r project hwn, sydd wedi'i leoli yn un o adeiladau prydferthaf Caerdydd." Am ragor o wybodaeth ewch i www.mrproducer.co.uk