Datganiadau i'r Wasg

Egnïol, brwdfrydig ac addysgiadol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad nodedig i addysg treftadaeth

 

 ‘Ffiaidd', ‘atgas', ‘rhyfeddol', ‘rhagorol' ac ‘od' oedd ymateb rhai myfyrwyr i weithdy archaeoleg a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddiweddar. Un elfen a gyfrannodd at ddyfarnu Gwobr Sandford i'r Amgueddfa oedd gallu staff i ymgysylltu â phlant. Cyflwynwyd y wobr i ddau aelod cynrychiadol o'r tîm ym Mhalas Hampton Court ddoe (24 Tachwedd 2008).

Cyflwynir Gwobr Stanford gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Treftadaeth. Mae'r wobr, sy'n ddilys am bum mlynedd, yn feincnod a ddyfernir yn annibynnol ar gyfer safon mewn addysg treftadaeth. Nid yw'r gwobrau blynyddol hyn yn gystadleuol ond maent yn cydnabod addysg o safon ar safleoedd hanesyddol ledled Prydain.

Clodforwyd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ei gallu creadigol a'i hadnoddau rhagorol. Mae uchafbwyntiau darpariaeth addysgiadol ragorol yr Amgueddfa'n cynnwys gweithdai sy'n seiliedig ar gasgliadau celf a gwyddoniaeth eang, oriel archaeoleg newydd o'r enw Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar ac oriel archwiliol Glanely.

Mae'r Amgueddfa wedi ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr â gwerthfawrogiad o gasgliadau celf, gwyddoniaeth ac archaeoleg Cymru am dros ganrif bellach. Yn 2007 yn unig, manteisiodd tua 30,000 o fyfyrwyr ar ddarpariaeth addysgiadol yr Amgueddfa. Meddai Ceri Black, Pennaeth Addysg Amgueddfa Cymru:

"Mae nifer sylweddol o ddisgyblion ysgol ledled Cymru'n mwynhau ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'n bleser mawr derbyn y wobr fawreddog hon sy'n cydnabod ein rhaglen dysgu gydol oes gynhwysfawr - rhan hanfodol o'n gwasanaeth sy'n helpu ymwelwyr i fanteisio i'r eithaf ar eu profiad yma."

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, a enillodd Wobr Sandford yn 2005.

Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i'r golygydd:

• Amgueddfa Cymru yw'r prif ddarparwr ar gyfer grwpiau addysgiadol yng Nghymru, ac mae'n croesawu tua 230,000 o ymweliadau addysgiadol ffurfiol bob blwyddyn.