Datganiadau i'r Wasg

Jobs i'r bois? Big Pit yn chwilio am beirianwyr pwll glo

Yn wyneb arafu economaidd a chynnydd mewn diweithdra, mae un amgueddfa sy'n atyniad ymwelwyr yn y de yn chwilio am ragor o staff.

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, y lofa ddofn olaf yng Nghymru bellach, am recriwtio peirianwyr glofa ychwanegol i helpu i gynnal y trysor cenedlaethol hwn.

Meddai Peter Walker, Rheolwr Big Pit:  "Yma yn Big Pit rydym yn teimlo mai'r ffordd orau i barhau i ddathlu treftadaeth glo Cymru yw trwy gynnig y profiad o deithio danddaear i grombil pwll glo go iawn i gymaint o ymwelwyr â phosib. Er mwyn darparu'r profiad hwn mae arnom angen ffitwyr a thrydanwyr profiadol sydd wedi gweithio yn y diwydiant.

"Y flwyddyn nesaf rydym yn gobeithio datblygu cynllun prentisiaeth a fydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i hyfforddi ar gyfer y swyddogaethau hyn, ond yn y cyfamser mae angen i ni fanteisio ar brofiad dynion sydd wedi symud i ddiwydiannau eraill ers i'r pyllau glo gau."

Yn ogystal â chwblhau gwaith cynnal a chadw, bydd unrhyw recriwtiaid newydd yn cael y cyfle i gwrdd â phobl o bedwar ban byd, eu tywys danddaear a rhannu eu profiadau eu hunain o weithio yn y diwydiant glo. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd hyn, dylech gysylltu â Big Pit. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.