Datganiadau i'r Wasg

Enwi Uwch-filwr

Darganfyddiad newydd ar ddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

 Mae darganfyddiad diweddar, a ganfuwyd yn ystod cloddfa archeolegol ar safle caer Rufeinig Caerllion yn haf 2008, ar ddangos nawr yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Wrth gloddio olion warws Rhufeinig, daeth archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain ar draws darn mawr o garreg adeilad ag arno arysgrif Lladin. Mae'r geiriau'n sôn am ddyn o'r enw Flavius Rufus oedd yn byw yng Nghaerllion bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd e'n uwch ganwriad - safle pwysig iawn yn y lleng Rhufeinig.

Er bod nifer o ysgrifau wedi'u canfod yn yr ardal, a bod enwau rhai milwyr Rhufeinig a'u teuluoedd yn hysbys, dyma'r dystiolaeth gyntaf a ddarganfuwyd am Flavius Rufus, a'r tro cyntaf i enw gael ei gysylltu â swydd bwysig uwch ganwriad yng Nghaerllion.

"Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod unrhyw beth mwy am y dyn, megis a oedd ganddo deulu, a fu farw yng Nghaerllion, neu a symudodd o'r ardal ar ôl ymddeol," meddai Julie Reynolds, Swyddog Curadurol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. "Ond rydyn ni'n gobeithio y gall cloddiadau pellach yn yr ardal arwain at ganfod rhagor o arysgrifau am Flavius Rufus, a fydd mewn amser efallai'n taenu mwy o oleuni ar hanes ei fywyd."

Cyflwynwyd y garreg hon yn rhodd i Amgueddfa Cymru gan Cadw: Henebion Cymru, a noddodd y cloddiadau archeolegol hefyd. Fel rhan o'r arddangosfa, gellir gweld ffilm fer sy'n cofnodi cloddio'r arysgrif, a wnaed ar y pryd gan yr Amgueddfa.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 - Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

Uwch Ganwriad

Byddai'n rhaid i filwr Rhufeinig roi blynyddoedd lawer o wasanaeth cyn dod yn uwch ganwriad. Byddai wedi bod yn o leiaf 50 oed pan gafodd y swydd, a fyddai wedi para blwyddyn yn unig. Byddai wedi derbyn cyflog anferth ac wedi ymddeol yn ddyn cefnog, neu wedi dringo'r ysgol yrfaol ymhellach hyd yn oed.