Datganiadau i'r Wasg

Osgowch y tyrfaoedd y Nadolig hwn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor yn hwyr ddwywaith dros y Nadolig

Mae cadw Amgueddfeydd ar agor yn y nos wedi dod yn arfer cyffredin mewn sawl rhan o'r DU erbyn hyn. A'r Nadolig hwn - ar 9 a 16 Rhagfyr 2008 - bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dilyn yr arfer hwn drwy agor ei drysau y tu hwnt i'r oriau agor swyddogol, gan gynnig cyfle i ymwelwyr fwynhau ymhell o brysurdeb a ffwdan siopa'r stryd fawr.

Does dim angen i chi ddioddef tyrfaoedd y penwythnos na chiwiau amser cinio eleni. Dewch i Ffair Nadolig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, o 10 y bore hyd at 8 yr hwyr ar y ddau ddydd Mawrth, i ddod o hyd i'r anrheg arbennig hwnnw yn siop yr Amgueddfa neu'r stondinau crefft sy'n gwerthu hetiau ac esgidiau babanod, gemwaith, crochenwaith, bagiau llaw, printiau, paentiadau a llawer mwy.

Ymysg yr atyniadau i deuluoedd fydd Siôn Corn (o 12 canol dydd hyd at 7:30 yr hwyr). Hefyd bydd Ruth Morgan o Cbeebies a Bobinogs yn arwyddo copïau o'i llyfr Sglod and Chips ac yn darllen pytiau ohono'n Gymraeg a Saesneg, a bydd Siôn Barrug a Brenhines yr Iâ'n diogelu'r cnau castan cynnes yn y cyntedd ac yn annog pobl sy'n pasio heibio i gysgodi rhag yr oerfel.

Os ydych chi'n chwilio am gynhesrwydd, dewch i fwynhau gwin cynnes neu gawl yng nghaffi'r Amgueddfa.

Ychwanegodd Mark Richards, Cyfarwyddwr Gweithredu Amgueddfa Cymru:

"Dyma'r tro cyntaf i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gynnal dau ddigwyddiad ffair Nadolig yn yr hwyr i'r cyhoedd, ac rydyn ni'n bles iawn i gael cefnogaeth cynifer o'r ddinas. Rydych chi'n si?r o fwynhau cerddoriaeth tymhorol gwych Côr Ysgolion Cynradd Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a'r Fro a Phres Symffonig yn ystod eich ymweliad. Bydd côr staff yr Amgueddfa yn perfformio hefyd ar 16 Rhagfyr.

"Neu, os ydych chi am gael saib o ddathliadau a miri'r Nadolig, bydd ein horielau ar agor i chi fwynhau'n casgliad cenedlaethol hynod."

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r digwyddiad, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.