Datganiadau i'r Wasg

Rhywogaeth newydd yn cyrraedd y DU

Darganfuwyd dailneidiwr mewn niferoedd mawr, sy'n newydd i'r DU, mewn ardal o laswellt Spartina yn ne Lloegr.

 Dr Mike Wilson, Pennaeth Entomoleg a Churadur Hemiptera Amgueddfa Cymru welodd y Prokelisia marginata yn Ewrop 10 mlynedd yn ôl. Gwelodd y neidiwr yn gyntaf yn yr Algarve a Sbaen, yn Slofenia yn 2004, ac mae nawr wedi darganfod grwpiau o'r pryfyn yn ardal Southampton Water a Poole Harbour.

Mae yna ddau fath o ddailneidiwr y morfeydd - un ag adenydd hir sy'n gallu hedfan, ac un ag adenydd byr sy'n methu hedfan ond sy'n dodwy mwy o wyau. Mae'n byw ar laswellt Spartina, neu gordwellt sy'n tyfu mewn cytrefi mawr, yn enwedig ar forfeydd arfordirol.

"Hyd yma, ychydig iawn o bobl yn y DU sydd wedi ymddiddori yn y gr?p hwn o bryfed," meddai Dr Wilson, un o'r unig ddau arbenigwr yn y DU sy'n astudio ffawna dailneidwyr o'r DU. "Serch hynny, mae ganddo'r potensial i ddifrodi planhigion trwy fwydo arnynt a lledaenu afiechydon planhigion."

Mae'r Prokelisia marginata yn gyffredin i'n cymheiriaid yn UDA, ac ef yw'r dailneidiwr cyntaf o Ogledd America sy'n bwyta glaswellt i sefydlu ei hun yn Ewrop. Credir iddo ddod draw o dir mawr Ewrop ar laswellt Spartina a ddefnyddiwyd fel deunydd pacio mewn llongau.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 - Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.