Datganiadau i'r Wasg
Aur i ffrindiau o Wrecsam — eto!
Dyddiad:
2008-12-10Ychwanegiadau at gelc Oes Efydd o Burton
Cafodd glain aur bionig a weiren aur bach wedi siapio ar bob pen - a ddarganfuwyd gan Mr Joseph Perry, Mr William May a Mr Peter Skelly â darganfyddwr metel yn Burton, Wrecsam yn Awst 2007 - eu cyhoeddi'n drysor heddiw (10 Rhagfyr 2008) mewn Llys Crwner, Llys Ynadon Sir Fflint.
Darganfuwyd y gwrthrychau'n union yr un lle â chasgliad o 14 o ddarnau o emwaith aur ac efydd ac offer ceramig o ganol yr Oes Efydd (rhwng 1350 a 1100 CC), a ffeindiwyd ac a gyhoeddwyd gan yr un bobl yn 2004.
Mae'r glain yn debyg i dair esiampl arall yn y casgliad ac mae'n debygol y byddant wedi bod ar yr un mwclis. Gallai'r weiren aur, ag un pen crwn a bachyn y pen arall wedi cael ei ddefnyddio fel modrwy bys torchog.
Dywedodd Adam Gwilt, Curadur Casgliadau'r Oes Efydd, Amgueddfa Cymru:
"Drwy'r darganfyddiadau diweddar yma, rydyn ni'n medru dysgu mwy am gelc Burton. Claddwyd y rhain a'r eitemau cyntaf gyda'i gilydd tua 3,300 mlynedd yn ôl. Gobeithiwn uno'r gwrthrychau i gyd blwyddyn nesaf, drwy arddangos ac ymchwilio'r celc cyfan."
Daeth darganfyddiadau cyntaf celc Burton gan gynnwys torc, breichled, crogdlws gwddf, pedwar glain, tair modrwy fylchog (i gyd o aur) gyda dwy balstaf neu fwyell a ch?n o efydd, a chrochenwaith cynhanesyddol i feddiant Amgueddfa Cymru. Fe'u harddangosir yn oriel Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd wedi croesawu dros 120,000 o bobl ers iddi agor 12 mis yn ôl.
Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Diwedd
Am wybodaeth bellach, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.
Nodiadau i Olygyddion
Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar
• Detholiad bach o'r llu o bethau hynod a ddarganfuwyd yng Nghymru yw'r pethau a ddewiswyd i'w harddangos yn Gwreiddiau: canfod y Gymru Gynnar - gwrthrychau sy'n ein helpu ni i ddeall ein hunain, a'r Gymru sydd ohoni. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- Claddedigaeth ddynol ffurfiol gyntaf Gorllewin Ewrop - ‘Dynes Goch Pen-y-fai';
- Arddull gelf dau-ddimensiwn yng Nghymru - carreg Bryn Celli Ddu o Fôn;
- Patrymau diamser mewn aur o Gymru'r Oes Efydd, fel breichledi Capel Isaf a chrogaddurn celc Burton;
- Crair prin o gyfnod y Diwygiad - ffigur peintiedig Crist o'r 13eg ganrif o grog (croes) a ddarganfuwyd ynghudd y tu ôl i wal ar y grisiau i'r groglofft yn Eglwys Cemaes, Sir Fynwy, yn y 19eg ganrif.
Gan ganolbwyntio ar bobl a newid, caiff perthnasedd i'r byd modern ei esbonio'n weledol. Mae celf, ffotograffiaeth, cerfluniau, cerddoriaeth ac animeiddio yn yr oriel hefyd, gan gynnwys gweithiau newydd a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa.