Datganiadau i'r Wasg

Calonnau cerrig

Calonnau o garreg i ddathlu diwrnodau arbennig i gariadon

 

Gyda dau ddiwrnod llawn rhamant ar y gorwel - Diwrnod Santes Dwynwen (25 Ionawr) a Sant Ffolant (14 Chwefror) beth am alw draw i Amgueddfa Lechi Cymru i gael anrheg unigryw i'ch anwylyd - calon lechi wedi ei gwneud â llaw.

Mae'r calonnau carreg yn unigryw i'r Amgueddfa, a chrefftwyr y chwarel sy'n eu gwneud nhw, fel esboniodd y swyddog marchnata, Julie Williams:

"Mae ein crefftwyr wedi bod yn gwneud calonnau llechi ers sawl blwyddyn bellach ac maen nhw bob amser yn boblogaidd gyda'n hymwelwyr am eu bod nhw'n roddion arbennig. Gellir eu defnyddio fel cardiau bach neu labeli anrhegion. Mae rhai wedi eu defnyddio fel i barti priodasau a gallwch ddefnyddio'r mwy o faint (5") fel matiau dal diod neu plac ar y wal."

I ddathlu diwrnod Santes Dwynwen, bydd yr Amgueddfa'n cynnal gweithgareddau crefftau rhwng 1pm a 3pm ar 25 Ionawr pan caiff ymwelwyr gyfle i wneud cardiau a chreu llyfr sgrap bach ar stori Dwynwen. Hefyd, bydd siocled siap calon am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a'r Amgueddfa ar (01286) 870630 neu ymwelwch a'r safle we www.amgueddfacymru.ac.uk.

Mae'r mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- DIWEDD - I gael rhagor o fanylion a lluniau i'r wasg, ffoniwch Julie Williams ar (01286) 873707 neu ebostiwch julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk. Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru.