Datganiadau i'r Wasg

Trysorau Celf Cymru'n mynd ar daith i UDA

Bydd llygaid Amgueddfa Cymru yn troi at yr Unol Daleithiau ar ddiwrnod yr etholiadau arlywyddol, ond am resymau gwahanol, wrth i'r Amgueddfa gyhoeddi manylion taith rhai o'i phrif weithiau celf.

Caiff manylion y daith, a fydd yn codi proffil casgliad celf cenedlaethol rhagorol Cymru, eu cyhoeddi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 4 Tachwedd.

Bydd Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection yn teithio i bum canolfan i gyd, gan gychwyn yn Amgueddfa Gelf Columbia ar 6 Mawrth 2009. Bydd y canolfannau eraill yn cynnwys Amgueddfa Gelf Dinas Oklahoma, Oklahoma City; Amgueddfa Gelf Everson, Syracuse, Efrog Newydd; Oriel Gelf Corcoran, Washington, D.C. ac Amgueddfa Albuquerque, New Mexico.

Bydd yr arddangosfa'n cynnwys 58 o weithiau olew a dyfrlliw, a dyma'r tro cyntaf i rai ohonynt gael eu gweld yn America. Trefnir yr arddangosfa gan Ffederasiwn Celfyddydau America (AFA) ac Amgueddfa Cymru. Sefydliad nad er gwneud elw yw'r AFA sy'n trefnu arddangosfeydd celf i'w cyflwyno mewn amgueddfeydd ledled y byd, yn cyhoeddi catalogau arddangosfeydd, ac yn datblygu rhaglenni addysg.

Roedd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies yn gasglwyr celf brwd, ac aethant ati i greu casgliad oedd yn amrywio o luniau'r Hen Feistri i waith artistiaid Prydeinig eu dydd. Gadawodd y ddwy eu casgliadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym 1952 a 1963. Wrth galon eu cymynrodd, mae casgliad eithriadol o weithiau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y chwiorydd ymysg casglwyr mwyaf celf Ffrengig flaengar eu hoes ym Mhrydain, ac roeddent yn arbennig o hoff o waith diweddar Monet. Roeddent hefyd ymysg y noddwyr Prydeinig cyntaf i brynu gwaith diweddarach Cézanne a Van Gogh.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys gweithiau olew a dyfrlliw o gasgliad Davies Amgueddfa Cymru. Gan agor gyda gr?p rhagarweiniol o weithiau gan J. M. W. Turner, mae'n rhoi cip difyr a phersonol iawn o gelf Ffrengig o'r Realwyr i'r Ôl-Argraffiadwyr, ac yn gorffen gydag adran fechan ar gelf Brydeinig avant garde y cyfnod yn union cyn y Ryfel Byd Cyntaf. Roedd y chwiorydd yn angerddol o blaid gwella'u cymdeithas a byd diwylliant, yn ogystal â rhannu gwerth ysbrydol celf. Roeddent yn hael iawn wrth fenthyg darnau i arddangosfeydd yn ystod eu hoes. Gwelwyd gweithiau o'u casgliad am y tro cyntaf mewn arddangosfa yng Nghaerdydd ym 1913.

"Rydyn ni wrth ein bodd i allu cyflwyno'r arddangosfa bwysig hon i bum canolfan gwahanol yn yr Unol Daleithiau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld gweithiau celf eithriadol gan rai o artistiaid Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol gorau'r byd am y tro cyntaf", meddai Oliver Fairclough, curadur gwadd yr arddangosfa a Cheidwad Celf Amgueddfa Cymru.

Meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, "Yn ogystal â gosod Cymru ar y map ar lwyfan ryngwladol, bydd y lluniau hyn yn ysbrydoli, yn diddanu ac yn addysgu miliynau o bobl at y dyfodol. Bydd yr arddangosfa gyffrous a grymus yma'n dal dychymyg y cyhoedd ac yn adrodd un o straeon gorau Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd arddangos uchafbwyntiau ein casgliad cenedlaethol mor bell i ffwrdd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru yn ogystal â'r diwydiant twristiaeth."

Bydd rhaglen gyffrous ac amrywiol ar gyfer ymwelwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod y daith.

Bydd Sisley yng Nghymru a Lloegr yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Mawrth 2009. Er taw Saeson oedd ei rieni, ganed Alfred Sisley (1839-1899) ym Mharis. Bu'n ddinesydd Prydeinig gydol ei oes, ond dim ond ddwywaith y daeth i Brydain i beintio - y tro cyntaf ym 1874, a'r ail ym 1897. Bydd yr arddangosfa yma'n dod â'r ddau gr?p o luniau at ei gilydd am y tro cyntaf. Er bod bron i chwarter canrif rhyngddynt, maent yn dangos Sisley ar ddau o gyfnodau mwyaf creadigol ei oes.

Yn ogystal, caiff ymwelwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau cyfres o arddangosfeydd sy'n canolbwyntio ar gelf gyfoes yn 2009. Bydd Does dim siwt beth â Chymdeithas: Ffotograffiaeth ym Mhrydain 1967-87 (4 Gorffennaf-4 Hydref) yn edrych ar gyfnod o ddatblygiad anhygoel ym myd ffotograffiaeth Prydain tra bydd Green Drops and Moonsquirters - The Utterly Imaginative World of Lauren Child (21 Tachwedd 2009-24 Ionawr 2010) yn archwilio gwaith yr awdures a'r arobryn, Lauren Child.

Dywedodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Rydyn ni wrthi'n gwella'r ffordd y mae casgliad celf y genedl yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn 2009 byddwn ni'n arddangos mwy o waith celf gyfoes nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n chwilio am ffyrdd o ddangos rhagor o gelf, cyflwyno gweithiau poblogaidd mewn ffyrdd newydd ac archwilio syniadau newydd."

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar 029 2057 3175 / 07812 801356 neu e-bostiwch siân.james@amgueddfacymru.ac.uk neu Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 / 07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion

Amserlen y Daith:

Columbia Museum of Art, Columbia, De Carolina 6 Mawrth - 7 Mehefin 2009

Oklahoma City Museum of Art Oklahoma City, Oklahoma 25 Mehefin - 20 Medi 2009

Everson Museum of Art Syracuse, Efrog Newydd 8 Hydref 2009 - 3 Ionawr 2010

Corcoran Gallery of Art Washington, D.C. 30 Ionawr - 25 Ebrill 2010

Albuquerque Museum Albuquerque, New Mexico 16 Mai - 8 Awst 2010