Datganiadau i'r Wasg

Y Seiniau Cyntaf

Neanderthal gan Simon Thorne - première yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Wrth i Amgueddfa Cymru gychwyn ar flwyddyn o ddigwyddiadau Cerddoriaeth 09, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn olrhain gwreiddiau cerddoriaeth gyda'r perfformiad byw cyntaf o seiniau'r Neanderthaliaid.

Cynhelir première Neanderthal gan Simon Thorne, un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 6 o'r gloch nos Sul, 8 Chwefror 2008, gyda chymorth G.C. Gibson Charitable Settlement. I ddilyn, bydd sgwrs gan yr Athro Steven Mithen o Brifysgol Reading - awdur The Singing Neanderthals: The Origins of Music, Language, Mind and Body.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Simon Thorne wedi cydweithio ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddarganfod mwy am sut roedd y Neanderthaliaid - math cynnar o bobl - yn cyfathrebu trwy gyfrwng sain yn hytrach na geiriau. Bu'n ymweld ag Ogof Pontnewydd yn Sir Ddinbych, yn astudio casgliad yr Amgueddfa o weddillion ffosilau, ac yn trin a thrafod gydag arbenigwyr yr ymennydd.

Y canlyniad yw Neanderthal, sy'n ystyried posibiliadau iaith o'r cychwyn cyntaf. Mae'n argoeli i fod yn noson ryfeddol, gyda'r unawdwyr o fri Mary Anne Roberts a Sianed Jones yn ail-greu seiniau ein cyndeidiau wrth inni gael ein tywys i fyd dirgel yr ogof trwy dafluniad fideo gan Rhombus Arts. Dyma flas ar sut roedd y Neanderthaliaid, fel ni ein hunain hefyd, yn dibynnu ar holl emosiynau'r gân i fynegi'r hyn yr oedd angen ei ddweud.

"Mae cydweithio â Simon wedi bod yn brofiad rhyfeddol tu hwnt, wrth inni dyrchu i fywydau diddorol y Neanderthaliaid," meddai'r Curadur Elizabeth Walker o Amgueddfa Cymru. "Er eu bod nhw'n rhannu'r un hynafiaid â ni, ni wnaethant esblygu, ac fe wnaethant farw a diflannu o'r tir rhywbryd ar ôl i'r bobl anatomegol fodern fel ni gyrraedd gwledydd Prydain. Gan fod gweddillion Neanderthalaidd a'u harfau cerrig wedi'u darganfod yma yng Nghymru, roedd y perfformiad hwn o gymorth i'w hailgyflwyno eto mewn ffyrdd newydd a chyffrous."

Bydd y rhai ohonoch sydd eisoes wedi gweld arddangosfa Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar eisoes yn gyfarwydd ag arddull ‘avant-garde' Simon Thorne gan fod ei gerddoriaeth i'w chlywed yn yr oriel.

"Chwilio am wreiddiau yw'r nod," meddai'r cyfansoddwr Simon Thorne. "Ond nid o safbwynt hanesyddol. Mae hynny'n amhosibl. Yn hytrach, o safbwynt ateb y cwestiwn pam wnaethom ni, fel pobl, ddechrau ymhél â cherddoriaeth yn y lle cyntaf? Ac fel cyfansoddwr yn yr unfed ganrif ar hugain, rwy'n credu ei bod hi'n werth ceisio ateb y cwestiwn hwnnw."

Mae Neanderthal yn rhan o ?yl Archeolegol - Caerdydd 2009, ac mae'r perfformiad am ddim - er bod angen archebu ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3148. Cynhelir Seiniau'r Neanderthaliaid: Gweithdai i'r Teulu yn yr Amgueddfa ar 7 ac 8 Chwefror hefyd, rhwng 1-3pm. Mae'r gweithdai am ddim, a dylech archebu wrth gyrraedd.

Bydd crynoddisg Neanderthal ar werth yn siop yr Amgueddfa. Am fwy o wybodaeth am Simon Thorne, ewch i www.simonthornemusic.co.uk.

Mae mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad. Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk

Nodiadau i Olygyddion

• Bydd Cerddoriaeth 09 Amgueddfa Cymru'n cynnig ystod eang o ddigwyddiadau cerddorol ac arddangosfeydd gan gynnwys y brosiect cyffrous Ymateb. Mae artistiaid yn gweithio gyda churaduron o saith amgueddfa genedlaethol Cymru ac yn cynhyrchu ymatebion cerddorol i gasgliadau'r genedl. Bydd rhagor o fanylion i ddilyn ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

• Boed yn opera, perfformiad corfforol neu berfformiad byrfyfyr arloesol, mae gwaith Simon Thorne yn pontio'r ffin rhwng cerddoriaeth a digwyddiad theatrig. Fel un o'n cyfansoddwyr mwyaf blaenllaw sy'n gweithio yng Nghymru heddiw, mae ei waith ar gyfyngiadau cyfnewid syniadau rhwng disgyblaethau gwahanol wedi creu casgliad o waith sy'n enwog am ei amrywiaeth ryfeddol a'i brydferthwch prin. Ef oedd cyfarwyddwr cwmni theatr Man Act. Ef yw un o sylfaenwyr The Wales Jazz Composers Orchestra. Yn fwyaf diweddar, aeth ati i greu Hope Street, sef gosodiad sain rhyngweithiol rhwng yr Eglwysi Cadeiriol Anglicanaidd a Phabyddol yn Lerpwl fel rhan o ddigwyddiadau Dinas Diwylliant Ewrop 2008. Mae ei waith gyda'r llais yn trin a thrafod elfennau canu fel mynegiant naturiol ac uniongyrchol, a'r posibilrwydd cymdeithasol o gael llais, lle mae cerddoriaeth yn fodd i bawb gyfrannu ar y cyd ac yn cynnig enghraifft newydd o ddiwylliant cynhyrchiol.

• Bydd Neanderthal yn mynd ar daith ym mis Mawrth. Mae'r perfformiadau'n cynnwys: 26 Mawrth 2009 Theatr Mwldan, Aberteifi www.mwldan.co.uk 27 Mawrth 2009 Theatr y Torch, Aberdaugleddau www.torchtheatre.co.uk 28 Mawrth 2009 Taliesin, Abertawe www.taliesinartscentre.co.uk 30 Mawrth 2009 Theatr Harlech, Harlech www.theatrharlech.com

• Criw o bedwar artist sy'n gweithio'n bennaf ym maes ffilm, fideo ac animeiddio yw Rhombus Arts. Yn raddedigion o Ysgol Ffilm Casnewydd, roedd eu gwaith diweddar yn trafod y berthynas rhwng y gynulleidfa a'r sgrin mewn sinema storïol a sinema nad yw'n storïol trwy archwilio celfyddyd fideo a pherfformiad byw. Mae Neanderthal yn dilyn datblygiad achosiaeth storïol sy'n arwain y gwyliwr i fyd yr ‘ogof' wrth gyfleu'r ymdeimlad o leoedd gwahanol a grëwyd trwy'r profiad o wylio a'r amgylchedd ffisegol lle mae'r gwylio'n digwydd. Enillodd Rhombus Arts wobr am y ffilm fer orau yng ng?yl ffilmiau Ffresh 2008, ac maent wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyfryngau Cerddorol yn yr ?yl eleni.

• Cynhelir G?yl Archeoleg 2009 yng Nghaerdydd rhwng 6 - 8 Chwefror 2009, o 10am tan 5pm. Bydd y penwythnos llawn gweithgareddau yn cyflwyno'r gorau o archeoleg Brydeinig a thramor. Ewch i www.archaeology.co.uk am fwy o wybodaeth ac i archebu'ch tocynnau.