Datganiadau i'r Wasg

Cofio Darwin yng Nghymru

Arddangosfa newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dathlu deucanmlwyddiant geni Charles Darwin

Mae ei wyneb barfog i'w weld ar bapurau decpunt, ei enw'n weddol gyfarwydd i bawb ac mae'n rhan o faes llafur pob ysgol. Ond pam bod Charles Darwin mor adnabyddus, a pham ein bod ni'n dathlu deucanmlwyddiant ei eni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fis Chwefror?

Bydd arddangosfa Darwin: newid byd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Sadwrn 7 Chwefror 2009, a chynhelir cyfres o ddigwyddiadau ar y cyd â'r Brifysgol Agored yng Nghymru i ddilyn. Bydd yn olrhain bywyd rhyfeddol Charles Darwin - y gwyddonydd sy'n enwog fel ‘tad bioleg esblygiadol' - ei fordeithiau, ei ddarganfyddiadau a'i gysylltiadau â Chymru.

Er mai dim ond saith diwrnod a dreuliodd yma yng Nghymru ym 1831 gydag Adam Sedgwick, un o ddaearegwyr mwyaf blaenllaw'r dydd, roedd yn brofiad gwerth chweil iddo ym maes daeareg ymarferol cyn mentro ar fordaith HMS Beagle i ben draw'r byd:

"This tour was of decided use in teaching me a little how to make out the geology of a country." Charles Darwin

Bydd Darwin: newid byd yn trafod yr adeg dyngedfennol hon yn ei fywyd pan ymwelodd â Chwm Idwal yn Eryri. Yno, bu'n cofnodi creigiau igneaidd, yn darganfod ffosilau creigresi ac yn dehongli daeareg ffurfiannol y cwm. Ymwelodd â Chonwy, Bangor, Capel Curig a Bermo hefyd.

"Roedd Darwin yn hen gyfarwydd â Chymru," meddai Tom Sharpe, Uwch Guradur Daeareg Amgueddfa Cymru. "Roedd ei deulu'n dod ar wyliau i Abergele a Thywyn a daeth Darwin yma'n aml wedyn rhwng 1824 a 1830, ar deithiau cerdded neu i gasglu pryfed."

Bydd rhywfaint o arddangosfa Darwin: newid byd yn rhoi sylw i'r gwyddonydd ifanc Alfred Russel Wallace, awdur y llythyr a sbardunodd Darwin i gyhoeddi ei syniadau am esblygiad yn On the Origins of Species. Mae damcaniaeth Darwin, sy'n ymwneud â'r newidiadau geneteg mewn organebau dros amser, bellach yn rhan ganolog o fioleg fodern ac yn esbonio pam fod bywyd y Ddaear mor amrywiol.

"Gan ei fod yn un o wyddonwyr enwocaf y byd, roeddem yn teimlo bod rhaid inni ddathlu deucanmlwyddiant Darwin, yn enwedig o gofio ei gysylltiadau â Chymru," ychwanegodd Mr Sharpe. "Er mai 12 Chwefror yw dyddiad ei ben-blwydd, bydd yr arddangosfa yn para tan ddiwedd y flwyddyn er mwyn rhoi cyfle i ysgolion ac ymwelwyr ddod i adnabod Charles Darwin yn well."

Ychwanegodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru: "Yng Nghymru dysgodd Darwin gryn dipyn am esblygiad felly a hithau'n ddauganmlwyddiant y gwyddonwr, mae'n adeg da i Gymru i ddysgu mwy am Darwin ac esblygiad. Bydd yr arddangosfa'n Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ysbrydolaeth i ddarganfod mwy am Darwin a'i theori. Mae'r Brifysgol Agored wedi creu gwefan yn arbennig ar gyfer Darwin, yn cynnwys gwybodaeth ar gyrsiau perthnasol a deunydd rhyngweithiol."

Cynhelir llu o weithgareddau, darlithoedd a digwyddiadau dysgu yn yr Amgueddfa yn 2009, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Darwin. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk. Ceir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r arddangosfa ei hun, diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'r Brifysgol Agored wedi trefnu rhaglen eang o weithgareddau, ac wedi cydweithio â'r BBC i greu llu o raglenni teledu am Darwin. Mae hefyd wedi creu cwrs newydd sbon ar y pwnc - S170: Darwin and Evolution - a llyfr, 99% Ape: How evolution adds up. Mae is-wefan arbennig www.openuniversity.co.uk/darwin yn cynnwys gêm ryngweithiol Devolve Me, sy'n rhoi cyfle i chi weld eich hun fel un o'ch cyndeidiau cynnar!

Am fanylion digwyddiadau eraill ledled y DU, ewch i www.darwin200.org

Diwedd

Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru, (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu Dewi Knight, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, (029) 2026 2708 neu e-bostiwch D.N.Knight@open.ac.uk.