Datganiadau i'r Wasg

Cariad o Rufain

Mae Diwrnod Sant Ffolant (14 Chwefror) erbyn hyn yn cael ei ystyried yn un o ddiwrnodau mwyaf rhamantaidd y flwyddyn - adeg pan fo partneriaid yn dangos cariad tuag at ei gilydd neu hyd yn oed yn gwneud ymrwymiad hirdymor drwy briodi. Ond i'r Rhufeiniaid, roedd Chwefror yn cael ei ystyried yn fis anaddas ar gyfer y weithred ramantaidd hon. Mae Mark Lewis, Curadur yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n ystyried a gafodd credoau'r Rhufeiniaid effaith arnyn nhw fel cariadon:

"Mae'r Eidal - canolbwynt yr Ymerodraeth Rufeinig - yn ganolfan ramantaidd sy'n aml yn cael ei chysylltu â Casanova neu Romeo a Juliet. Ond roedd dynion Rhufeinig yn enwedig yn ystyried y weithred o garu yn ddim mwy na diddordeb amser hamdden. Yn wir roedd pobl yn gyffredinol yn credu bod syrthio mewn cariad yn wendid mewn cymeriad yn hytrach na chryfder!

Negeseuon ar gerrig beddi yw'r dystiolaeth gryfaf sydd gyda ni am garwriaethau a phriodasau'r Rhufeiniaid. Mae carreg o gasgliad yr Amgueddfa'n adrodd hanes milwr Rhufeinig, Julius Valens a fu farw pan oedd yn gant oed. Ei wraig Julia oedd wedi paratoi ei gofeb ac roedd hi'n saith deg pump oed pan fu farw. Roedd Julius o leiaf 25 mlynedd yn h?n na hi, felly os mai ar gyfer ei arian y priododd hi ef, roedd yn rhaid iddi aros sbel hir cyn ei gael - bu fyw ei g?r am ganrif!

Roedd hi'n gyffredin i ferch yn ei harddegau briodi dyn llawer yn h?n na hi a fu'n briod unwaith neu ddwy o'r blaen. Gallai sawl perthynas ddatblygu rhwng g?r a gwraig, meistr a chaethwas a rhwng cariadon.

Mae graffiti ar wal Siambr y Cyngor yng Nghaerwent Rufeinig yn awgrymu sgandal rhwng Domitilla a Victor. Dyma gyfieithiad o'r graffiti:

"Domitilla (yn danfon cariad) i'w (chariad) Victor."

Awgrymwyd mai caethwas oedd Domitilla yn ysgrifennu at ei chariad oherwydd oddi tano, ysgrifennodd rhywun arall ‘RHAG EICH CYWILYDD!' Dehongliad arall o'r ail ddatganiad yw "Boed i chi gael cosb!" Yn sicr roedd rhywun wedi'i gynhyrfu gan y graffiti!

Mae pobl yn cymryd bod y garwriaeth hon yn deillio o gariad pur rhwng dau berson - nid y prif gymhelliad arferol wrth briodi. I'r Rhufeiniaid roedd priodas yn seiliedig yn gyffredinol ar arian a chynghreiriau gwleidyddol; yn aml roedd ysgariadau bonheddig yn digwydd pan fu newid yn yr arweiniad gwleidyddol. Gyda phob priodas Rufeinig roedd cytundebau cyn priodi. Roedd hyd yn oed un ffurf o briodas ble roedd y ferch yn parhau dan reolaeth ei thad neu ei thad-cu yn hytrach na rheolaeth y g?r a'i deulu.

Ond roedd eto ychydig o bwyslais ar deimlo ac edrych yn addas. Roedd y briodferch yn gwisgo gwyn ond yn y cyfnod cynnar roedd priodferched yn cael eu pwyso yn ystod y gwasanaeth!

Wrth ddyweddïo, roedd g?r yn rhoi modrwy i'w ddyweddi. Roedd hi'n gwisgo hon ar ei llaw chwith ar y bys agosach at yr un lleiaf fel addewid o ffyddlondeb. Ac mae'r darlun yn gwella - yn aml roedd y fodrwy'n cynnwys delweddau o ddal dwylo (dextrarum iunctio) fel symbol o uniad.

Yn dilyn y briodas, rôl y fenyw oedd gofalu am y cartref, addysgu'r plant a sicrhau fod pawb yn y cartref yn parchu'r penteulu. Roedd gan fenywod Rhufeinig lawer mwy o annibyniaeth na rhai Groegaidd. Roedden nhw'n gyfrifoldeb am fwydo, cynnal, annog a chefnogi eu dynion.

Felly nid yw'r newyddion yn ddrwg i gyd! Petai Rhufeiniaid cefnog yn dathlu eu perthynas gyda'r person oedd yn ddewis Ciwpid fel rydyn ni'n ei wneud ar Ddiwrnod Sant Ffolant, bydden nhw mwy na thebyg wedi mwynhau gwledd wrth olau cannwyll, caethweision yn gweini wystrys a grawnwin ac yn diweddu mewn baddon chwilboeth Rhufeinig!"

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i'r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.