Datganiadau i'r Wasg

Coed newydd yn magu gwreiddiau yn y DU ac Iwerddon

Botanegwyr yn y DU yn darganfod 14 rhywogaeth o goed arbennig a chroesiadau o goed

 Mae'r Gerddinen Gymreig, Cerddinen Llangollen a Cherddinen Stirton yn dair o'r 14 rhywogaeth newydd sydd i'w gweld ledled y wlad; mae rhai wedi'u henwi ar ôl y sawl a wnaeth eu darganfod, eraill ar ôl y man lle cawsant eu darganfod ac eraill yn ôl eu nodweddion.

Mae botanegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cydweithio â gwyddonwyr o Brifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Rhydychen a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew i enwi rhywogaethau newydd o goed yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Mae'r cyfan yn brin ac angen eu diogelu.

O'r 14 rhywogaeth sydd wedi'u henwi'n swyddogol yr wythnos hon yn Watsonia, cyfnodolyn gwyddonol Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain, mae chwech i'w gweld yng Nghymru, sef:

• Cerddinen Stirton (Sorbus stirtoniana) - clogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn yw'r unig le yn y byd i weld y goeden hon; • Cerddinen Llangollen (Sorbus cuneifolia) - coeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg, Sir Ddinbych sy'n gartref i tua 240 o blanhigion; • Y Gerddinen Gymreig (Sorbus cambrensis) - i'w gweld ym Mannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni (Sorbus stenophylla) - dwy rywogaeth o Gymru sy'n perthyn i'w gilydd yn agos; • Cerddinen Doward (Sorbus eminentiformis) i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig; • Cerddinen Motley (Sorbus ? motleyi) - croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod.

"Mae'r datganiad am Gerddinen Motley yn hynod amserol eleni gan ein bod yn dathlu daucanmlwyddiant geni Charles Darwin a 150 o flynyddoedd ers cyhoeddi On the Origins of Species," meddai Dr Tim Rich, Pennaeth Planhigion Fasgwlar Amgueddfa Cymru, sydd wedi enwi'r goeden newydd.

"Mae'r goeden hon yn enghraifft o'r broses esblygu ar waith. Dechreuodd fel croes rhwng Cerddinen y Darren Fach a Chriafolen mewn coedwig ger Merthyr Tudful ar ôl i gorwynt 1989 greu'r amodau cywir ar ei chyfer."

Mae'r coed newydd hyn, yn ogystal â saith rhywogaeth newydd yn Lloegr ac un yn Iwerddon, yn perthyn i'r gr?p Sorbus, sy'n cynnwys coed cerddin a choed criafol. O ganlyniad, mae nifer y math hwn o goed wedi cynyddu dros 50%.

Arweiniwyd y project gan Dr Rich, ac fe'i hariannwyd yn bennaf gan Sefydliad Leverhulme ac Amgueddfa Cymru gyda chyfraniadau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Natural England a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew. Meddai Dr Tim Rich:

"Mae'n debyg bod rhai o'r coed hyn wedi datblygu'n ddiweddar ac maent yn dangos bod rhywogaethau newydd yn esblygu drwy'r amser. Mae rhai eraill yn h?n ac wedi bod yn hysbys i ni ers peth amser, ond dim ond nawr y gallwn eu disgrifio fel ‘rhywogaethau' diolch i ddulliau DNA modern."

Mae enghreifftiau o'r rhywogaethau newydd yn cael eu cadw gan Lysieufa Genedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae tair o'r rhywogaethau Cymreig - Cerddinen Stirton, Cerddinen Motley a'r Gerddinen Gymreig - yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Gellir ymweld â holl safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.