Datganiadau i'r Wasg

Cymru'n cael argraff ar arlunydd arloesol

Arddangosfa gelf newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno Alfred Sisley yng Nghymru

Priododd Alfred Sisley (1839-1899), un o'r Argraffiadwyr pwysicaf, yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd, treuliodd ei fis mêl ym Mae Langland ac fe gynigodd perchennog tafarn o Gymru bum swllt iddo ar gyfer un o'i baentiadau!

Er bod Sisley yn un o baentwyr tirlun gorau'r 19eg ganrif a'r unig brif Argraffiadwr i weithio yng Nghymru, mae ei enw'n dal i fod yn weddol anadnabyddus i nifer ohonom. Bydd Sisley yng Nghymru a Lloegr, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 7 Mawrth hyd at 14 Mehefin 2009, yn dadorchuddio talentau Alfred Sisley, gan roi cyfle i ymwelwyr weld ei bortreadau cywrain o dirluniau Prydain.

Arddangosfa a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru a'r National Gallery, Llundain, mae Sisley yng Nghymru a Lloegr yn canolbwyntio ar ddwy ymgyrch Sisley ym Mhrydain - yn Lloegr yn 1874 a Chymru yn 1897. Daw'r arddangosfa a chanlyniad y ddau ymweliad yma ynghyd am y tro cyntaf - gan ddatgelu Sisley ar adegau mwyaf creadigol ei fywyd.

"Dim ond yn ddiweddar y mae golygfeydd Alfred Sisley o arfordir de Cymru, a baentiodd ar ddiwedd ei fywyd, wedi cael eu gwerthfawrogi fel cynnig olaf ei yrfa artistig," dywedodd yr Athro Ann Sumner, Cyfarwyddwraig Barber Institute of Fine Arts, Prifysgol Birmingham a gyd-guradurodd yr arddangosfa pan oedd yn Amgueddfa Cymru.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys unig baentiadau morwrol Sisley sy'n goroesi heddiw ac a greodd yng Nghymru. Mae'r gweithiau'n amrywio o'r rheiny sy'n dal effaith pelydriad y golau ar y Môr Hafren dawel, i weithiau hyderus o'r creigiau mawr ym Mae Langland, yn arbennig cerrig brig Craig Storr.

Daeth Sisley i Gymru i briodi ei gymar hir dymor Eugénie Lescouezec, a hynny a wnaethant yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd ar 5 Awst 1897. Buon nhw'n byw gyda'i gilydd am 30 mlynedd a dim ond ychydig o bobl oedd yn gwybod nad oedden nhw'n briod. Roedd y ddau'n dioddef o gancr; bu farw Eugénie o'r afiechyd ym mis Hydref 1898, a Sisley yn Ionawr 1899, felly credir mai pwrpas y briodas oedd i gyfreithloni eu plant, Jeanne a Pierre.

Ar ôl hynny, buon nhw'n byw ym Mhenarth - ‘lle braf' yn ôl Sisley ac roedd eu cartref yn 4 Clive Place yn ‘ddymunol.' Dywedodd fod gan y dref ‘bopeth oedd angen ar dref glan môr Saesnig: rhodfa, traeth a phier ble gallwch gerdded ar y môr.' O Benarth, gan edrych dros y Môr Hafren paentiodd lôn llongau Caerdydd a golygfeydd i'r dwyrain a'r gorllewin ar hyd yr arfordir.

Treuliodd Sisley ac Eugénie eu mis mêl yng Ngwesty Osborne ym Mae Langland - un o westai mwyaf crand Cymru ar y pryd - ble arhoson nhw o Awst hyd at ddiwedd Medi. Roedd Sisley yn credu bod y tirlun yma'n wahanol iawn i Benarth. Roedd yn credu bod y môr yn ‘wych' a defnyddiodd y tonnau yn erbyn craig fawr - Craig Storr - fel canolbwynt i gyfres o baentiadau rhydd o olygfeydd arfordirol.

"Mae'n wych i ni allu ail-uno'r paentiadau hudolus yma o ddiwedd gyrfa Sisley, am y tro cyntaf yng Nghymru," dywedodd y curadur Charlotte Topsfield. "Rwy'n meddwl bydd ein hymwelwyr yn synnu ac yn falch iawn i weld golygfeydd adnabyddus ar hyd arfordir de Cymru a baentiwyd gan arlunydd Argraffiadol pwysig. Rydym wedi bod yn ymwybodol o'r gyfres Gymreig ers amser a bûm yn ffodus i dderbyn Y clogwyn ger Penarth, min nos, llanw isel i'n casgliad ym 1993 ar ôl chwilio amdano am ddeng mlynedd.

"Mae'r gweithiau yma, ymysg eraill o gasgliadau preifat ac amgueddfeydd ym Mhrydain yn rhan o gasgliad hynod o weithiau sy'n portreadu arhosiad Sisley yn Lloegr a Chymru, ac yn adlewyrchu ei ymrwymiad i'r dechneg Argraffiadol drwy gydol ei yrfa."

Caiff ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau gwledd o drysorau Alfred Sisley o 7 i 14 Mehefin 2009. Mae hyn yn ystod cyfnod pan fod rhannau o'r Amgueddfa yn cael eu datblygu i arddangos mwy o gasgliad Amgueddfa Cymru, a 58 o weithiau o gasgliad y Chwiorydd Davies yn cael eu rhannu a chynulleidfa ehangach yn yr Unol Daleithiau.

Mae mynediad am ddim i'r arddangosfa ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk