Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn cofio — 25 mlynedd wedyn

Drwy gydol y gwanwyn eleni bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru'n rhoi croeso i dymor o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd sy'n nodi 25 mlynedd ers Streic y Glowyr, a newidiodd dirwedd ddiwydiannol Cymru am byth.

Mae'r tymor yn dechrau ar 12 Mawrth gyda lansiad rhifyn diweddaraf GLO, cylchgrawn hanes cymdeithasol Big Pit, sy'n canolbwyntio ar Streic 1984/85 ac yn adrodd hanesion rhai o'r bobl o Gymru a oedd yn ymhel â'r Streic, gan gynnwys y picedwyr, aelodau o'r heddlu, rheolwyr pyllau, gwleidyddion ac enwogion.

Mae uchafbwyntiau eraill y rhaglen yn cynnwys:

  • Darlith Flynyddol Big Pit ar Sadwrn 4 Ebrill ble bydd Mrs Mair Francis, gwraig Dr Hywel Francis AS, yn trafod sut roedd Grwpiau Cefnogi Menywod yn ystod y Streic yn ysbrydoli Cyfleoedd Dulais er Menter Wirfoddol, gr?p cydweithredol i helpu menywod i hyfforddi a dysgu sgiliau newydd.
  • Atgofion mewn Coch. Bydd y bardd Mike Jenkins yn archwilio sut gall aflonyddwch gwleidyddol a chymdeithasol gael ei adlewyrchu mewn barddoniaeth.
  • Drwy fy llygaid, hanes ffotograffyddol un dyn o'r streic - arddangosfa wych o ffotograffau o olygfeydd beunyddiol y cyfnod nad oes neb wedi'u gweld o'r blaen. Bydd yr arddangosfa'n rhedeg o 22 Mai hyd yn gynnar ym Medi.

Bydd Billy Bragg hefyd yn gwneud ymddangosiad arbennig ym Mlaenafon ar 5 Mehefin i lansio ei daith o amgylch Cymru sy'n nodi 25 mlynedd ers y Streic. Bydd yn canu a thrafod y Streic a'i heffaith ar ei fywyd a'i gerddoriaeth gyda holwr gwadd arbennig.

Rhestr lawn o ddigwyddiadau:

  • 12 Mawrth - Lansio GLO: Streic!
  • 4 Ebrill - Darlith Flynyddol. Am docynnau, cysylltwch â Big Pit (01495) 790311.
  • 13 Mai - Atgofion mewn Coch. I archebu lle cysylltwch â Big Pit (01495) 790311.
  • 22 Mai - Lansio Drwy fy llygaid. Arddangosfa sy'n rhedeg tan Fedi.
  • 5 Mehefin - Billy Bragg mewn sgwrs a chân. Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, 7.30pm. Am docynnau, cysylltwch â (01239) 621200.